Beic

Mae beic yn gerbyd dwy, neu weithiau dair olwyn.

Caiff ei yrru gan y coesau a'r traed, felly mae'n ddull glân a chynaladwy o deithio. Yr hen enw arno oedd 'Deurodur' ('dau' a 'rotor').

Beic
Beic
Enghraifft o'r canlynoldull o deithio, individual means of transport Edit this on Wikidata
Mathvelocipede, two-wheeler, offer chwaraeon Edit this on Wikidata
Deunyddmetel, carbon-fiber-reinforced polymer, gwydr ffeibr Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1885 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbicycle part, bicycle frame, bicycle fork, bicycle wheel, bicycle hub, spoke, stem, bicycle handlebar, bottom bracket, bicycle drivetrain systems, bicycle pedal, crankset, Cadwyn beic, gear train, derailleur, bicycle tire, bicycle inner tube, bicycle saddle, seatpost, bicycle brake, bowden cable, Pêl-feryn, bicycle suspension Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Beic
Beic mynydd
Beic
Seiclwr mynydd ar un o draciau Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog, yn ymarfer.

Mae rhai'n beicio mewn rasys, rhai eraill am hwyl neu deithio o A i B.

Agweddau technegol

Mae clipiau-troed a strapiau troed neu pedalau di-glip yn helpu i gadw'r troed yn y safle cywir ar y bedal, ac yn galluogi i'r beiciwr dynnu yn ogystal â gwthio ar y pedalau—ond nid yw hyn heb ei beryglon, er enghraifft, gall y droed ddod yn sownd pan fydd angen ei roi ar y llawr i atal i'r beiciwr ddisgyn. Mae ategolion technegol yn cynnwys seiclgyfrifiaduron er mwyn mesur cyflymder, pellter ac amlder chylchdroadau pedalu. Mae ategolion eraill yn cynnwys goleuadau, adlewyrchyddion, clo, drych, poteli dŵr a chewyll iw dal, a chloch.

Mathau o feiciau

Ers eu dyfeisio, mae beiciau wedi cael eu datblygu'n gyson, a'u haddasu ar gyfer defnydd penodol. Mae amrywiaethau helaeth yn y siapiau, y geometreg, y metel yr adeiladir y beic ohoni, ac yn y darnau a'r offer a ddefnyddir.

Beiciau rasio a beiciau mynydd ydy dau o'r mathau mwyaf cyffredin o feiciau, yn ogystal â beiciau hybrid sydd wedi'u dylunio yn arbennig ar gyfer defnydd cyffredinol megis siopa a chymudo. Mae beiciau sy'n plygu sy'n gyfleus ar gyfer teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus a chymudo pan mae lle i gadw'r beic yn gyfyng. Mae beiciau tandem ar gyfer dau berson.

Mae rhai beiciau hefyd wedi eu dylunio gyda ffynhonnell arall o bŵer, heblaw egni'r unigolyn. Mae beiciau trydanol yn defnyddio dynamo i gasglu egni pan mae'r unigolyn yn teithio'n gyflym, megis lawr allt, er mwyn rhoi cymorth wrth yrru'r beic fyny allt.

Datblygwyd beiciau modur o feiciau yn wreiddiol, wrth ychwanegu modur.

Anghenion cyfreithiol

Gall gwisgo helmed beic leihau anaf os bydd y beisiwr mewn damwain, mae helmed ardystiedig yn angenrheidiol yn ôl cyfraith rhai awdordau megis yn Awstralia. Ond mae hyn yn bwnc dadleuol, gan fod ymchwil wedi dangos nad yw helmedau yn helpu ym mhob achos, ac bu lleihad sylweddol yn y nifer o feicwyr yn Awstalia yn dilyn cyflwyniad y gyfraith hon.

Caiff helmedau eu dosbarthu fel ategolyn neu eitem o ddillad.

Beicio yng Nghymru

Mae gan yr amgueddfa feiciau cenedlaethol yn Llandrindod, Powys gasgliad eang o feiciau ar hyd yr oesoedd o feic penny farthing i'r beic lotus a ddefnyddiwyd gan Chris Boardman i dorri record yr awr ym 1992.

Fel yng ngweddill gwledydd Prydain, ni chaniateir beicio ar y draffordd, ond gan mai dim ond dwy draffordd sydd yng Nghymru nid yw hyn yn achosi gormod o broblemau. Wrth edrych ar fapiau Ordnance Survey gellir gweld y nifer helaeth o lwybrau lle gellir reidio beic gan y caniateir beicio ar lwybrau march ar draws y wlad (ond nid ar lwybrau troed).

Mae nifer o lwybrau penodol ar gyfer beiciau yng Nghymru. Adeiladwyd nifer gyda chymorth gan yr elusen Sustrans. Mae hefyd lôn i feicwyr (a cherddwyr) ar yr hen bont Hafren a Phont y Borth am ddim.

Mae canolfannau beicio mynydd Cymru ymysg y gorau yn y byd. Adeiladwyd llwybrau a chanolfan ymwelwyr yng Nghoed y Brenin gan Dafydd Davis a Siân Roberts, gan osod blaenoriaeth ar gyfer llwybrau eraill ym Machynlleth, Betws-y-coed, Penmachno, Brechfa, Llandegla, Bwlch Nant yr Arian, Afan Argoed a Gyrfa Goedwig Cwmcarn.

Cyfeiriadau

Beic 
Chwiliwch am beic
yn Wiciadur.

Tags:

Beic Agweddau technegolBeic Anghenion cyfreithiolBeic io yng NghymruBeic CyfeiriadauBeicCerbydOlwyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

AC/DCPelagiusFaytonçu2 Tachwedd5 MawrthTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr EidalLabiaColomenTitan (lloeren)1955Canghellor y TrysorlysThomas Glynne DaviesAbaty Dinas BasingIago VI yr Alban a I LloegrPandemig COVID-19RhamantiaethThe Disappointments RoomSingapôrGogledd Swydd EfrogTîm pêl-droed cenedlaethol CymruAlfred HitchcockBehind Convent WallsMecsicoConnecticutBig BoobsDadfeilio ymbelydrolColeg Balliol, RhydychenPrynhawn DaBoris JohnsonMyrddinThomas Jones (almanaciwr)PlwmpBrasilOrganau rhywBreinlenBelcampoCarles PuigdemontCeri Rhys MatthewsBaskin-RobbinsWoking195469 (safle rhyw)EwroBlodeuglwmParamount PicturesData cysylltiedigBloc PartyNia Ben AurISO 3166-12 IonawrTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad PwylAnkstmusikTarzan and The AmazonsGwyddelegIaithPasgNovialOboCalendr GregoriGNAT1Cyfathrach Rywiol FronnolUnthinkableLyn EbenezerTudur Owen🡆 More