Bara llaith o Gymru sy'n cynnwys cyrens, rhesins neu syltanas, croen candi, a sbeis melys yw bara brith.
Gweinir yn dafellau gyda menyn gan amlaf, am de'r prynhawn neu de mawr. Teisen furum yw bara brith yn draddodiadol, ond mae nifer o ryseitiau modern yn defnyddio ychwanegion megis soda pobi i'w lefeinio.
Math | fruit bread, bwyd |
---|---|
Label brodorol | bara brith |
Rhan o | Coginiaeth yr Ariannin, Coginiaeth Cymru |
Yn cynnwys | baker's yeast |
Enw brodorol | bara brith |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn wreiddiol câi bara brith ei pharatoi ar ddiwrnod pobi bara trwy ychwanegu siwgr, bloneg, ffrwythau sych a sbeis at does. Yn raddol, datblygodd y cymysgedd yn un fwy cyfoethog a defnyddiwyd burum i'w godi. Daeth y torth yn deisen amser te ar gyfer achlysuron arbennig mewn cymunedau amaethyddol a diwydiannol, megis y cynhaeaf gwair neu lafur, diwrnod dyrnu neu gneifio, a'r Nadolig. Yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain yr enw arni yw teisen dorth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bara brith, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.