Ffilm epig ffuglen wyddonol Americanaidd o 2009 yw Avatar.
Fe'i hysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan James Cameron ac mae'n serennu Sam Worthington, Zoe Saldana, Sigourney Weaver, Michelle Rodriguez, a Stephen Lang. Gosodir y ffilm yn y flwyddyn 2154 ar Pandora, lloeren yn y system serol Alpha Centauri. Mae bodau dynol yn mwyngloddio mwyn gwerthfawr ar Pandora, tra bo'r Na'vi—hil led-ddynol frodorol—yn gwrthsefyll ymlediad y gwladychwyr, sydd yn bygythio bodolaeth y Na'vi ac ecosystem Pandora. Cyfeiria teitl y ffilm at y cyrff, a greir gan ddefnyddio peirianneg enetig, a ddefnyddir gan gymeriadau'r ffilm i ryngweithio â'r Na'vi.
Poster theatraidd | |
---|---|
Cyfarwyddwr | James Cameron |
Cynhyrchydd | James Cameron Jon Landau |
Ysgrifennwr | James Cameron |
Serennu | Sam Worthington Zoe Saldana Stephen Lang Michelle Rodriguez Giovanni Ribisi Joel David Moore C. C. H. Pounder Wes Studi Laz Alonso Sigourney Weaver |
Cerddoriaeth | James Horner |
Sinematograffeg | Mauro Fiore |
Golygydd | James Cameron John Refoua Stephen E. Rivkin |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Lightstorm Entertainment Dune Entertainment Ingenious Film Partners |
Dosbarthydd | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 10 Rhagfyr 2009 (dangosiad cyntaf, Llundain) 18 Rhagfyr 2009 (Unol Daleithiau) |
Amser rhedeg | 162 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $237,000,000 |
Refeniw gros | $1,335,040,297 |
Dechreuodd Cameron ddatblygu Avatar ym 1994, pan ysgrifennodd scriptment 80 tudalen o hyd ar gyfer y ffilm. Bwriadwyd i ffilmio ddechrau wedi cwblhad Titanic, ac yn ôl Cameron bydd y ffilm wedi'i rhyddhau ym 1999 os nad oedd "angen i dechnoleg dal lan" â'i weledigaeth o'r ffilm. Ddechrau 2006, datblygodd Cameron y sgript, iaith y Na'vi, a diwylliant Pandora. Awgrymodd Cameron bod dilyniannau yn bosib os yw Avatar yn llwyddiannus.
Rhyddhawyd y ffilm mewn fformat 2-D traddodiadol, yn ogystal â fformatau 3-D ac IMAX 3D. Yn swyddogol cyllideb Avatar yw UD$237 miliwn; mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu cost o $280–310 miliwn i gynhyrchu a $150 miliwn am farchnata. Honnir bod y ffilm yn bwysig yn nhermau technoleg gwneuthuriad ffilmiau, am ei datblygiad o olwg 3-D a gwneuthuriad ffilm stereosgopig gyda chamerâu a ddylunir yn arbennig at gynhyrchiad y ffilm.
Enillodd Avatar dim ond UD$3,537,000 ar ddangosiadau canol nos yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn rhannol oherywdd iddo gael ei dangos ar 2,200 o sgriniau 3-D yn unig. Enillodd y ffilm $27 miliwn ar ei ddiwrnod agoriadol, a $77 miliwn dros ei benwythnos agoriadol yn yr Unol Daleithiau a Chanada, gan ei gwneud yn yr agoriad Rhagfyr ail fwyaf erioed, tu ôl i I Am Legend, a'r agoriad penwythnos 25ain fwyaf yn yr Unol Daleithiau, er gwaethaf lluwchwynt wnaeth gorchuddio Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau dan drwch o eira ac yn ôl adroddiadau wnaeth niweidio'i phenwythnos agoriadol. O ran marchnadoedd rhyngwladol, cynhyrchwyd cyfansymiau o leiaf $10 miliwn ar benwythnosau agoriadol yn Rwsia ($20.8 miliwn), Ffrainc ($20.3 miliwn), y DU ($14.1 miliwn), yr Almaen ($13.2 miliwn), Awstralia ($11.9 miliwn), De Corea ($11.4 miliwn), a Sbaen ($10.9 miliwn). Enillion gros byd-eang Avatar oedd amcan o $232,180,000 ar ôl tridiau, y gros penwythnos-agoriadol nawfed fwyaf erioed, a'r mwyaf am ffilm wreiddiol nad oedd yn ddilyniant nac yn rhan o gyfres. Gostyngodd refeniwau'r ffilm gan ddim ond 1.9% yn ei hail benwythnos ym marchnadoedd yr Unol Daleithiau a Chanada, wrth ennill $75,589,048 i aros ar frig y swyddfa docynnau. Torrodd y ffilm record The Dark Knight am yr ail benwythnos mwyaf erioed. Bu gostyngiad bychan arall mewn refeniw y ffilm yn ei thrydydd benwythnos, gan ostwng 9.7% am amcangyfrif o $68,300,000 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, unwaith eto wrth aros #1 yn y swyddfa docynnau, ond llwyddodd i dorri record hirsefydlog Spider-Man o $45,036,912 fel y drydydd benwythnos â'r gros uchaf erioed. Ar yr 17th ddiwrnod o ryddhad y ffilm, croesodd y marc $1 biliwn byd-eang gan ei gwneud yn y ffilm gyflymaf erioed i wneud hynny. Ar ôl dim ond 24 diwrnod wedi iddi gael ei rhyddhau, roedd Avatar wedi grosio $429 miliwn yn yr Unol Daleithiau a Chanada, a 26 diwrnod wedi iddi gael ei ryddhau grosiodd $902 miliwn mewn tiriogaethau eraill, gyda chyfanswm byd-eang o $1.331 biliwn. Avatar yw'r ail ffilm uchaf ei gros byd-eang erioed, a'r seithfed ffilm uchaf ei gros erioed yn yr Unol Daleithiau a Chanada (heb ei newid am chwyddiant).
Yn gyffredinol derbyniodd Avatar adolygiadau ffafriol gan adolygwyr ffilm. Yn ôl y cydgrynhöwr adolygiadau Rotten Tomatoes, rhoddwyd adolygiad positif o'r ffilm gan 82% o 243 o adolygwyr proffesiynol, gyda marc cyfartalog o 7.4 allan o 10. Ymhlith Top Critics Rotten Tomatoes, sy'n cynnwys adolygwyr nodedig a phoblogaidd o'r prif bapurau newydd, gwefannau, a rhaglenni teledu a radio, mae gan y ffilm marc cymeradwyaeth hyd yn oed well o 87%, yn seiliedig ar sampl o 15 o adolygiadau. Y farn gyffredin ar y wefan yw bod y ffilm "efallai yn fwy nodedig ar lefel dechnegol na fel stori, ond mae Avatar yn ailddatgan dawn unigryw James Cameron o wneud ffilmiau dychmygus a diddorol". Ar Metacritic, sydd yn rhoi marc normaleiddiedig allan o 100 yn ôl adolygiadau ffilm a gasglir, mae gan Avatar sgôr o 84 yn seiliedig ar 35 o adolygiadau, sydd yn dynodi "canmoliaeth gan bawb".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Avatar (ffilm 2009), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.