Roedd Asser (bu farw 908/909) yn fynach Cymreig a wahoddwyd i lys Alffred Fawr, brenin Wessex, i'w helpu i addysgu ei bobl.
Mae yna darddodiad mai "Gwyn" oedd ei enw gwreiddiol, ond nid oes tystiolaeth i brofi hyn. Daw'r enw "Asser" o'r Beibl; roedd yr Asser gwreiddiol yn fab i Jacob o Leah.
Asser | |
---|---|
Ganwyd | 9 g Tyddewi |
Bu farw | c. 909 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, ysgrifennwr, cofiannydd, offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Bishop of Sherborne |
Mynach o Dyddewi oedd Asser. Daw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd ar gael amdano o'i fywgraffiad Lladin o Alffred a ysgrifennwyd yn 893. Mae'r llyfr yma yn ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer hanes Lloegr yn y cyfnod yma. Dywed Asser ei fod, ar ôl cryn betruso, wedi derbyn gwahoddiad Alffred gan ei fod yn credu y gallai fod o fwy o gymorth i'w bobl yn ei lys ef nag yn Nhyddewi. Cred Syr Ifor Williams fod Asser wedi ysgrifennu ei fywgraffiad ar gyfer y Cymry yn hytrach nag ar gyfer y Saeson, gan ei fod droeon yn esbonio enw Saesneg trwy roi'r enw Cymraeg ar y lle.
Rywbryd rhwng 892 a 900 gwnaed Asser yn esgob Sherborne. Dywedir ei fod eisoes wedi bod yn esgob, ond mae'n ansicr a oedd yn Esgob Tyddewi, er fod Gerallt Gymro yn ei restru fel Esgob Tyddewi yn ei Itinerarium Cambriae (1191).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Asser, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.