Asima Chatterjee

Cemegydd Indiaidd oedd yn arbenigo ar blanhigion meddyginiaethol oedd Asima Chatterjee (23 Medi 1917 – 22 Tachwedd 2006).

Asima Chatterjee
Asima Chatterjee
Ganwyd23 Medi 1917 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Bu farw22 Tachwedd 2006 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig, India Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Calcutta
  • Coleg Lady Brabourne
  • Coleg Eglwys yr Alban
  • University College of Science, Technology & Agriculture Edit this on Wikidata
Galwedigaethcemegydd, botanegydd, academydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o'r Rajya Sabha Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Calcutta Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg Shanti Swarup Bhatnagar, Prifysgol Gwyddoniaeth a Pheirianneg Padmabhushan Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Calcutta, yn ferch i'r meddyg a'r botanegydd Indra Narayan Mukherjee. Enillodd ei gradd meistr ar bwnc cemeg organig o Brifysgol Calcutta ym 1938, a'i doethuriaeth ym 1944. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill doethuriaeth mewn gwyddoniaeth o unrhyw brifysgol yn India. Teithiodd i gyd-weithio ag academyddion eraill ym Mhrifysgol Wisconsin (1947), Athrofa Dechnegol Califfornia (1948–49), a Phrifysgol Zürich (1949–50).

Dychwelodd i Brifysgol Calcutta, ac ymchwiliodd i gemeg planhigion meddyginiaethol, yn enwedig alcaloidau a chwmarinau. Cafodd ei phenodi yn ddarllenydd yn yr adran gemeg bur ym 1954, ac ym 1962 hi oedd y fenyw gyntaf i'w phenodi i gadair wyddonol prifysgol yn India a hynny yn Athro Cemeg Khaira.

Llwyddodd i ddatblygu'r cyffur gwrth-epileptig, Ayush-56, o Marsilia minuta, a'r cyffur gwrth-malaria o Alstonia scholaris, Swrrtia chirata, Picrorphiza kurroa, a Ceasalpinna crista. Yn ystod ei gyrfa, cyhoeddodd tua 400 o erthyglau mewn cyfnodolion academaidd.

Cyfeiriadau

Tags:

1917200622 Tachwedd23 MediCemegIndia

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Llenyddiaeth yn 2023PidynGoogleS4CCwpan y Byd Pêl-droed 2010Bitməyən ömürVaughan GethingRadioDerbynnydd ar y topHoudiniSex and The Single GirlSlofaciaEglwys Gatholig Roegaidd WcráinAntonín DvořákAmffetaminStepan BanderaUndeb llafurGalileo GalileiFfŵl EbrillDemolition ManNovialCedorPasgTîm Pêl-droed Cenedlaethol FfraincCascading Style SheetsTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)CaerdyddWcráin1533Plaid wleidyddolHafanUsenetVirginiaFfilmCanolfan y Celfyddydau AberystwythPictiaid29 MawrthKabsaOrson WellesBoris JohnsonPm Narendra ModiGweriniaeth Ddemocrataidd CongoGNAT1Rob Beckett988Camilla, Brenhines Gydweddog y Deyrnas UnedigGwrthglerigiaethCeffylGwlad GroegEagle EyeTalaith NovaraVurğun OcağıFideo ar alwOboConnecticutPaffioWokingNeft KəşfiyyatçılarıYr Undeb EwropeaiddCwinestrol20gY Ffindir🡆 More