Yn y Traddodiad Abrahamaidd, un o ddosbarth arbennig o angylion sy'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw yn y Nefoedd ac yn gweithredu fel negesydd Iddo weithiau yw archangel.
Ffurfia'r archangylion y trydydd o'r corau o amgylch gorsedd Duw. Mewn Cristnogaeth, fe'u darlunir yn gyffredinol fel bodau asgellog o ymddangosiad dynol, gan amlaf yn gwisgo arfwisg. Mae'r archangylion yn rhan o draddodiad Iddewiaeth ac Islam hefyd.
Math | angel, angels in Christianity, angel in Islam |
---|---|
Y gwrthwyneb | archdemon |
Rhan o | hierarchy of angels |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir saith archangel yn y traddodiad Cristnogol (cyfeiria Ioan at "y saith angel" sy'n sefyll o flaen Duw). Cyfeirir at bedwar ohonynt yn y Beibl, a dyma'r rhai mwyaf cyfarwydd o lawer:
Yn ogystal ceir tri arall nas enwir yn y Beibl. Yr enwau mwyaf cyffredin arnynt yw:
Mae rhai traddodiadau yn sôn am archangylion eraill hefyd.
Yn Islam, yr archangylion pwysicaf yw Mihangel neu Mikail (archangel cymhorthwy), Gabriel neu Jibril (archangel datguddiad; daeth â'r Coran at Fohamed), ac Angel Angau- a enwir gan amlaf yn Azra-eel neu 'Malak al-Maut' (Angel Angau), Israfel neu Israfil (yr archangel a fydd yn canu'r gorn ar Ddydd Brawd), Maalik (Ceidwad Uffern), Munkar a Nakir (angylion a fydd yn cwestiynu eneidiau'r meirw am eu buchedd) a Radwan (Ceidwad y Nef). Ceir dau angel arall hefyd - y Kiraaman-Katibeen - y cyfeirir atynt yn y Coran.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Archangel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.