Gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia a ysgrifennir yn gydweithredol gan ddarllenwyr y safle hwn.
Mae'r safle yn enghraifft o wici, sef math arbennig o wefan lle gall unrhyw un sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd olygu tudalennau trwy glicio ar y botwm golygu. Dechreuwyd y safle Saesneg yn 2001, ac mae'r fersiwn honno wedi tyfu i ddod yn un o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y we. Nod y Wicipedia Cymraeg, a sefydlwyd yn 2003, yw efelychu'r llwyddiant hwnnw ac i ddod yn adnodd defnyddiol i siaradwyr Cymraeg ar y we.
Mae'n bwysig cofio fod gwahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng Wicipedia a ffynonellau gwybodaeth traddodiadol. Gan fod yr hawl gan unrhyw un i olygu tudalennau, mae gwallau yn medru treiddio erthyglau, ac yn achlysurol ceir fandaliaeth neu wybodaeth anghywir mewn erthygl. Y ffordd orau i sicrhau bod y ffeithiau a gynhwysir mewn erthygl yn gywir yw edrych ar y ffynonellau a roddwyd ynddi; os gwelwch erthygl sydd angen ffynonellau, gallwch helpu drwy ychwanegu ffynonellau perthnasol.
Rhoddir cyfraniadau i Wicipedia yn hollol wirfoddol, o dan y trwyddedi Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported a GNU Free Documentation License (GFDL). Mae'r trwyddedi hyn yn defnyddio'r broses hawlfraint i sicrhau nad yw'r wybodaeth byth yn cael ei reoli gan unrhyw un person, fel ei bod ar gael am byth.
Felly, mae'r wybodaeth yn Wicipedia ar gael i unrhyw un ei chopïo, ei hail-ddosbarthu neu ei newid dros eu hunain, cyn belled â bod y fersiwn newydd yn rhoi'r un hawliau i eraill, a bod awduron yr erthygl wreiddiol yn derbyn cydnabyddiaeth (fel arfer mae cysylltiad nôl i'r erthygl wreiddiol yn gwneud y tro).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.