Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England).
Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.
England | |
Math | gwledydd y Deyrnas Unedig, ardal ddiwylliannol, cenedl, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Angliaid, tir |
Prifddinas | Llundain |
Poblogaeth | 53,012,456, 57,106,398 |
Anthem | God Save the King |
Pennaeth llywodraeth | Rishi Sunak |
Cylchfa amser | GMT |
Nawddsant | Siôr |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 130,278 km² |
Yn ffinio gyda | Yr Alban, Cymru |
Cyfesurynnau | 53°N 1°W |
Cod SYG | E92000001 |
GB-ENG | |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y wladwriaeth | Siarl III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig |
Pennaeth y Llywodraeth | Rishi Sunak |
Arian | punt sterling |
Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mersia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.
Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.
Mae naw rhanbarth yn Lloegr:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lloegr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.