Cyfeiria'r term cynnwys rhydd, neu wybodaeth rydd, at unrhyw fath o waith at bwrpas, gwaith celf, neu gynnwys heb unrhyw gyfyngiad cyfreithiol arwyddocaol ar ryddid pobl i ddefnyddio, dosbarthu copïau, addasu a dosbarthu gwaith sy'n tarddu o'r cynnwys.
Mae'n wahanol i gynnwys agored; gellir addasu cynnwys neu ffeiliau "rhydd"; nid yw bob amser yn bosib gwneud hynny gyda ffeiliau "agored".
Mae cynnwys rhydd yn cwmpasu'r holl weithiau sydd yn y parth cyhoeddus a'r gweithiau hynny sydd â hawlfraint arnynt sydd â thrwyddedau sy'n parchu ac ategu'r rhyddid y sonir amdano uchod. Am fod cyfraith hawlfraint yn rhoi rheolaeth fonopoliaidd i ddeiliaid gweithiau yn awtomatig dros eu creadigaethau yn y mwyafrif o wledydd, rhaid nodi cynnwys sydd â hawlfraint arno'n rhydd, fel arfer drwy gynnwys cyfeiriadau neu gynnwys datganiadau trwyddedu o fewn y gwaith.
Er yr ystyrir darn o waith sydd yn y parth gyhoeddus am fod ei hawlfraint wedi dirwyn i ben yn rhydd, gallai ddod yn an-rhydd unwaith eto gan ddod yn an-rhydd neu anghyfreithlon os yw'r gyfraith hawlfraint yn newid.
Yn 2011 cyhoeddodd y Canghellor George Osborne ei fwriad i sefydlu Sefydliad y Data Rhydd (Saesneg: Open Data Institute) i hyrwyddo rhannu data er mwyn gweld twf o fewn byd busnes. Bydd y sefydliad yn cael ei reoli gan ddyfeisiwr y we fyd-eang, sef Sir Tim Berners-Lee, a'r Athro Nigel Shadbolt o Brifysgol Southampton.
O fewn ychydig wythnosau i'r cyhoeddiad cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fod yn agor ei ddrysau i wybodaeth i'r cyhoedd am ddim drwy bortal data newydd. Bydd hyn yn gosod y safon led led Ewrop ac yn rhoi £85m o arian ar sut i wella trin a thrafod data.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cynnwys rhydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.