Antigone

Cymeriad ym mytholeg Roeg yw Antigone.

Fe'i phortreadir yn nramâu Groeg Soffocles (497–406 CC) ac eraill.

Antigone
Antigone

Roedd Antigone yn ferch i Oedipus (Brenin Thebai) a Jocasta. Bu i Jocasta, ei mam, lladd ei hun, a thynnodd Oedipus ei lygaid ei hun drwy anffawd a ddaeth i'r teulu. Crwydrodd Antigone a'i thad fel cardotwyr wedyn ond dychwelodd hi i Thebai wedi ei farwolaeth. Yno roedd ei hewythr yn frenin a threfnwyd i Antigone briodi ei chefnder Haemon. Ond wedi brwydr rhwng dau frawd Antigone, a'r ddau wedi eu lladd mae anffawd yn disgyn arni eto. Yn ôl y gred, ni fyddai fyth heddwch i enaid un sy ddim wedi cael angladd addas. Ond dyma benderfyniad y Brenin am gorff un o frodyr Antigone. Marwolaeth oedd y cosb am y rhai a feiddiai cynnal unrhyw ddefod i'r corff. Ac wrth gwrs dyna’r union beth a wnaeth Antigone.

Oherwydd ei huchel dras roedd rhaid iddi wneud y defodau priodol a cholli ei bywyd hi, hapusrwydd gyda Haemon a pharhau a'r rhwyg ac anffawd yn y teulu. Er mwyn urddas ei theulu, yn hytrach nag hapusrwydd ei theulu, mae Antigone yn aberthu ei hun er mwyn i enaid ei brawd gorwedd mewn hedd.

Fersiynau o Antigone

  • Antigone, un o'r Tair Drama Thebaidd gan Soffocles - y fersiwn enwocaf efallai
  • Antigone, 1922 drama gan Jean Cocteau (1889-1963)
  • Antigone, 1949 opera gan Carl Orff (1895-1982)
  • Antigone, 1942 drama gan Jean Anouilh (1910-1987)
  • "Antigone-Legend", am soprano a piano (geiriau Bertolt Brecht), gan Frederic Rzewski (b. 1938)
  • Antigone, opera gan Mikis Theodorakis (g. 1925)
  • Antigone (1990), opera gan Ton de Leeuw (g. 1926)
  • Antígona Furiosa (Furious Antigone), 1986 drama gan Griselda Gambaro (g. 1928)
  • "The Island", 1972 De Affrica, drama gan Athol Fugard (g. 1932)
  • La Pasión Según Antígona Pérez 1959 drama gan ddramodydd o Puerto Rica Luis Rafael Sánchez (b. 1936), wedi ei gosod yn America Ladin
  • Tegonni, An African Antigone gan Femi Osofisan (g. 1946)
  • Antigone, gan y bardd Periwaidd José Watanabe (g. 1946)
  • Antigone, opera gan Mark Alburger (g. 1957)
  • Antigone 1997 gan Henry Bauchau
  • The Burial at Thebes 2004 drama gan Seamus Heaney
  • The Burial At Thebes (2008) opera gan Dominique Le Gendre i libretto gan Seamus Heaney a Derek Walcott
  • Antigone, 1949 gan Bertolt Brecht a Caspar Neher. Seilwyd ar drosiad Friedrich Hölderlin (1770–1843) dan y teitl Antigonemodell 1948.

Trosiadau Cymraeg o waith Soffocles gyda Antigone yn brif gymeriad ynddynt

  • Oidipus Frenin, un o'r Tair Drama Thebaidd gan Soffocles - cyfieithiad Euros Bowen (Y Drama yn Ewrop, Gwasg Prifysgol Cymru 1972)
  • Oidipus yn Colonos, un o'r Tair Drama Thebaidd gan Soffocles - cyfieithiad Euros Bowen (Dramâu'r Byd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1979)
  • Antigone, cyfieithiad W. J. Gruffydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)

Gweler hefyd

Tags:

Mytholeg RoegSoffocles

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Kieffer MooreFietnamAnna SewardAlldafliad benywDic Jones28 MehefinThomas Glynne DaviesRhestr bandiauGwamEmoções Sexuais De Um CavaloSingapôrFfilmWiciYr ArianninBitməyən ömürLlanenganNewham (Bwrdeistref Llundain)HedfanCroatiaHuey LongRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrBéla BartókHanna KatanOfrenda a La TormentaColeg Balliol, RhydychenData cysylltiedigBrysteTsieinaSex and The Single GirlNobuyuki KatoCyfarwyddwr ffilmCeri Rhys MatthewsCyfathrach Rywiol FronnolOsteoarthritisTeyrnas Gwynedd18 ChwefrorAngkor WatKabsaTîm Pêl-droed Cenedlaethol PortiwgalAlfred HitchcockNovialWilhelm DiltheyGwlad GroegMozilla FirefoxGweddi'r Arglwydd365 DyddHexCoron yr Eisteddfod Genedlaethol1833Simon BowerCodiadHunan leddfuBanc LloegrViv Thomas35 DiwrnodCymdeithas Bêl-droed LloegrEirlysTudur Dylan JonesCrimeaSant NicolasWordPressVurğun Ocağı20 EbrillSpace ManGwainGwyddeleg🡆 More