Bardd, darlledwr, a beirniad llenyddol oedd Aneirin Talfan Davies (Aneurin ap Talfan; 11 Mai 1909 – 14 Gorffennaf 1980).
Aneirin Talfan Davies | |
---|---|
Ffugenw | Aneirin ap Talfan |
Ganwyd | 11 Mai 1909 Felindre |
Bu farw | 14 Gorffennaf 1980 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Geraint Talfan Davies |
Gwobr/au | OBE |
Cafodd ei eni yn Nhrefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, lle roedd ei dad yn weinidog, ac yna mynychodd Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr wedi i'r teulu symud i Dre-gŵyr. Yn ystod y tridegau aeth i weithio i Lundain fel fferyllydd cyn dychwelyd ac ymsefydlu yn Abertawe. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dechreuodd weithio i'r BBC yn Abertawe, ac yn ddiweddarach daeth yn Rheolwr y BBC yng Nghymru, ac fe gynhyrchodd rhai o weithiau cynnar Dylan Thomas. Yn dilyn marwolaeth Dylan ysgrifennodd astudiaeth o'i waith fel bardd crefyddol. Cyfieithodd farddoniaeth Christina Rossetti i'r Gymraeg, a golygu llythyron David Jones a fu'n ddylanwad pwysig ar Aneirin Talfan.
Roedd yn frawd i'r Barnwr Alun Talfan Davies. Gyda'i frawd sefydlodd y wasg a'r tŷ cyhoeddi Llyfrau'r Dryw yn Llandybie, a ddaeth yn ddiweddarach yn Christopher Davies. Sefydlodd hefyd y cylchgrawn Heddiw a gyda'i frawd y cylchgrawn Barn.
Ei fab yw Geraint Talfan Davies sydd wedi dal sawl swydd o bwys yng Nghymru
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aneirin Talfan Davies, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.