Awdures o Frasil yw Mae Ana Maria Machado (ganwyd 24 Rhagfyr 1941) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, arlunydd, nofelydd ac awdur plant.
Gyda Lygia Bojunga Nunes a Ruth Rocha, fe'i hadnabyddir fel un o awduron benywaidd mwyaf poblogaidd Brasil. Derbyniodd Fedal Ryngwladol Hans Christian Andersen yn 2000 am ei "chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant".
Ana Maria Machado | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1941 Rio de Janeiro |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, arlunydd, nofelydd, awdur plant |
Cyflogwr | |
Arddull | llenyddiaeth plant |
Gwobr/au | Gwobr Hans Christian Andersen, Gwobr y Tywysog Claus, Prêmio Jabuti, Urdd Teilyngdod Diwylliant, Gwobr Machado de Assis |
Gwefan | https://www.anamariamachado.com.br/ |
Fe'i ganed yn ninas Rio de Janeiro ar 24 Rhagfyr 1941.
Dechreuodd ei gyrfa fel arlunydd yn ninas Rio de Janeiro ac Efrog Newydd. Ar ôl astudio ieithoedd Romáwns, gwnaeth PhD gyda Roland Barthes yn y École pratique des hautes études ym Mharis. Gweithiodd fel newyddiadurwr i'r cylchgrawn Elle ym Mharis a'r BBC yn Llundain. Yn 1979, agorodd y siop lyfrau plant gyntaf ym Mrasil, 'Malasartes'.
Gellir darllen ei gwaith ar sawl lefel, fel pob llenyddiaeth fawr. Soniai ei stori Menina Bonita do laço de fita (1986; cyfieithwyd i'r saesneg dan y teitl Nina Bonita: A Story yn 2001, ISBN 978-0916291631) am gwningen ddu a chwningen wen, sy'n priodi ac yn cael swp o lefrod bach o liwiau gwahanol rhwng y ddau sbectrwm gwyn a du, gan gynnwys smotiau, patrymog a llwyd; mae'r grwp yma'n ddelwedd am grwp ethnig yn y byd go-iawn, a phwysigrwydd cyfoeth yr amrywiaeth. Yn ei llyfr Era uma vez um tirano (1982) ceir tri phlentyn sy'n dyffeio'r teyrn lleol sydd wedi gwahardd lliw, meddyliau a hapusrwydd. Heb bwyntio bus at neb, mae Ana Maria Machado yn dweud moeswers am y sefyllfa real, gwleidyddol, ond yn ei wisgo gyda hiwmor, ac yn parchu'r darllenwr i ddarllen rhwng y llinellau, i'r neges real, cyfoes, gwleidyddol.
Mae ei llyfrau'n llawn dychan, a gelwir yr arddull yn "realaeth lledrithiol" (magical realism). Dywedir ei bod yn dilyn arddull awduron megis Jose Bento Monteiro Lobato, a oedd hefyd yn awdur llyfrau plant. Mae ei hiaith yn llawn o eirfa chwareus, arddull sy'n boblogaidd iawn gan blant. Yn História meio ao contrário (1978), mae Ana Maria Machado yn troitrefn arferol y stori dylwyth teg ar ei ben i lawr, drwy ddechrau gyda "ac os na fuont farw, yna mae nhw'n dal i fyw heddiw!" ac yn gorffen gyda'r geiriau traddodiadol, poblogaidd "Un tro..."
Bu'n aelod o Academia Brasileira de Letras am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ana Maria Machado, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.