Ysgolhaig a golygydd Cymreig oedd Alwyn David Rees (27 Mawrth 1911 – Rhagfyr 1974), a ysgrifennodd fel Alwyn D.
Rees. Roedd yn ddarlithydd prifysgol a ddaeth yn adnabyddus fel awdur nifer o lyfrau ac fel golygydd y cylchgrawn Barn.
Alwyn D. Rees | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1911 |
Bu farw | Rhagfyr 1974 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | golygydd |
Ganed Alwyn D. Rees yn Llanarel, Coalbrook, Gorseinon; roedd ei dad yn weindiwr mewn pwll glo. Daeth ei frawd Brinley Rees hefyd yn adnabyddus, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd y ddau lyfr, Celtic Heritage, sy'n ceisio gosod yr etifeddiaeth Geltaidd mewn fframwaith ehangach Indo-Ewropeaidd, ar y cyd. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn 1933. Bu'n diwtor yn Adran Allanol y coleg o 1936 hyd 1946, yna'n ddarlithydd yn yr Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg hyd 1949 pan apwyntiwyd ef yn Gyfarwyddwr yr Adran Efrydiau Allanol. Ystyrir ei lyfr Life in a Welsh countryside, astudiaeth gymdeithasegol o bentref Llanfihangel yng Ngwynfa, yn glasur.
Daeth yn olygydd y cylchgrawn Barn yn Chwefror 1966, a daeth i amlygrwydd cenedlaethol trwy ei ysgrifau ynddo. Roedd yn gefnogwr brŵd i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu hefyd yn olygydd Yr Einion/The Welsh Anvil o 1949 hyd 1958.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alwyn D. Rees, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.