Pentref bychan yng nghymuned Bwcle, Sir y Fflint, Cymru, yw Alltami.
Fe'i lleolir i'r gogledd-orllewin o dref Fwcle ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Wyddgrug. Saif ar ffordd yr A494 sy'n rhedeg o Ellesmere Port i Ddolgellau. Mae nant, Alltami Brook, yn rhedeg trwy'r pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1822°N 3.0983°W |
Cod OS | SJ266656 |
Yn Alltami adeiladwyd un o'r capeli cyntaf y Methodistiaid Cyntefig yng Ngogledd Cymru, sef Bryn Methodist Church. Dechreuodd yr eglwys yn ystod gwersyllgyfarfod haf ym Mryn y Baal ym 1836, dan arweiniad Henry Brining o Gaer. Adeiladwyd eglwys yn Alltami yn 1838, ac fe'i hestynnwyd ddiwedd y degawd dilynol i gynnwys ystafelloedd ysgol. Erbyn 1933 dechreuodd Alltami Brook, sy'n llifo gerllaw, i niweidio sylfeini'r eglwys. Cafodd y broblem ei datrys a gwnaethpwyd gwelliannu ychwanegol dros y blynyddoedd.
Saif Greenbank Farmhouse, adeilad rhestredig Gradd II, dim pell o'r pentref. Mae'r ffermdy yn dyddio i'r 1860au, pan gafodd ei ailadeiladu a'i ailfodelu ynghyd â dwy fferm arall yn yr ardal, Ty'n y Caeau a Rhosychellis (sydd bellach wedi'i ddymchwel).
Mae un dafarn, The Tavern, yn y pentref.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alltami, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.