Mamal yn perthyn i'r teulu Hippopotamidae yw'r afonfarch (hefyd hipopotamws neu dyfrfarch) (Hippopotamus amphibius, o'r Roeg: 'ιπποπόταμος, hippopotamos).
Afonfarch | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Hippopotamidae |
Genws: | Hippopotamus |
Rhywogaeth: | H. amphibius |
Enw deuenwol | |
Hippopotamus amphibius Linnaeus, 1758 |
Yr unig aelod arall o'r teulu yw'r Afonfarch Bach.
Ceir yr Afonfarch yn Affrica i'r de o'r Sahara yn unig, ac mae wedi diflannu o lawer o diriogaethau yno. Mae'n byw o gwmpas afonydd a llynnoedd mewn grwpiau o hyd at 40 anifail, gan aros yn y dŵr yn ystod y dydd a dod allan i fwydo ar blanhigion yn y nos.
Ceir rhwng 125,000 a 150,000 ohonynt i gyd, y nifer fwyaf yn Sambia (40,000) a Thansanïa (20,000-30,000).
Filoedd o flynyddoedd yn ôl, cyn i'r hinsawdd newid, roedd afonfeirch i'w cael yng nghanol yr hyn sydd erbyn heddiw yn anialwch y Sahara: ceir darluniau cynhanesyddol ohonynt ar furiau ogofâu yn y Tassili n'Ajjer.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Afonfarch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.