Achos llys yn Uwch Lys Sbaen yw achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia a ddechreuodd ar 12 Chwefror 2019.
Mae'r 18 diffynnydd bron i gyd yn gyn-aelodau o gabined Llywodraeth Catalwnia ac yn cynnwys Carme Forcadell (Arlywydd Senedd Catalwnia), Jordi Sànchez (Llywydd Cyngres Genedlaethol Catalwnia) a Jordi Cuixart (Llywydd yr Òmnium Cultural). Cânt eu herlyn am nifer o droseddion honedig gan gynnwys hybu annibyniaeth y wlad, gwrthryfela a chamddefnydd o arian cyhoeddus (neu 'embeslad') a wariwyd pan drefnodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm ynghylch annibyniaeth yn Hydref 2017.
Enghraifft o'r canlynol | trial |
---|---|
Rhan o | Catalan independence process |
Dechreuwyd | 30 Hydref 2017 |
Daeth i ben | 14 Hydref 2019 |
Rhagflaenwyd gan | Trial 9-N of Artur Mas, Joana Ortega and Irene Rigau |
Lleoliad | Palacio de Justicia |
Prif bwnc | refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Rhanbarth | Madrid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Barnwr yr achos yw Manuel Marchena. Yn y cyfamser, mae Carles Puigdemont yn parhau yn alltud yng Ngwlad Belg, lle mae'n rhydd i wneud sylwadau ar faterion gwleidyddol Catalwnia, gan gynnwys yr achos hwn.
Mae Amnest Rhyngwladol, y Cenhedloedd Unedig a nifer o gyrff a sefydliadau eraill wedi mynegi eu pryder fod Sbaen wedi torri hawliau dynol yr amddiffynion..
Mae'r Erlynydd yn ymgorffori erlynwyr y cyrff canlynol:
Trosedd | Article Cod Penyd Sbaen | Diffynyddion |
---|---|---|
Gwrthryfela | Erthygl 472 Sbaen | Oriol Junqueras, Joaquim Forn, Jordi Turull, Raül Romeva, Josep Rull, Dolors Bassa, Carme Forcadell, Jordi Sánchez a Jordi Cuixart |
Embeslad | Erthygl 432 | Oriol Junqueras, Joaquim Forn, Jordi Turull, Raül Romeva, Josep Rull, Dolors Bassa, Meritxell Borràs, Carles Mundó a Santi Vila |
Anufudd-dod sifil | Erthygl 410 | Lluís María Corominas, Lluís Guinó, Anna Isabel Simó, Ramona Barrufet, Joan Josep Nuet, Mireia Boya, Meritxell Borràs, Carles Mundó a Santi Vila |
Ceir chwe diffynnydd arall a fydd ymddangos mewn llys gwahanol, sef Uwch Lys Cyfiawnder Catalwnia: Ramona Barrufet, Mireia Boya Busquet, Lluís Corominas, Lluís Guinó, Joan Josep Nuet a Anna Simó. Bwriedir hefyd erlyn pedwar pennaeth y Mossos, sef heddlu Catalwnia, am gydweithio gyda Llywodraeth Catalwnia, sef Josep Lluís Trapero Álvarez, Pere Soler, César Puig i Casañas a Teresa Laplana. Mae'r erlynydd yn galw am ddedfryd o garchar i'r pedwar: 11 mlynedd yr un.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia, 2019, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.