Yr Antarctig yw cyfandir mwyaf deheuol y Ddaear, ac mae'n cynnwys Pegwn y De daearyddol.
Fe'i lleolir, felly, yn Hemisffer y De - i'r de o Gylch yr Antartig, gyda Chefnfor y De yn ei amgylchynu. Caiff ei reoli dan amodau Cytundeb yr Antarctig. Ceir iâ dros 98% ohono a hwnnw'n 1.9 km (1.2 mi; 6,200 tr) o drwch, ar gyfartaledd. ceir ychydig o dir yn y rhan gogleddol eithaf.
Math | cyfandir, rhanbarth, terra nullius, part of the world |
---|---|
Enwyd ar ôl | anti-, Yr Arctig |
Poblogaeth | 4,400 |
Cylchfa amser | UTC−04:00, UTC−03:00, UTC±00:00, UTC+03:00, UTC+05:00, UTC+06:00, UTC+07:00, UTC+08:00, UTC+10:00, UTC+11:00, UTC+12:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ehangdir, Antarctic, y Ddaear |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig |
Arwynebedd | 14,200,000 km² |
Cyfesurynnau | 90°S 0.000000°E |
Mae ei arwynebedd yn 14,000,000 kilometr sgwâr (5,400,000 milltir sgwâr), a'r cyfandir hwn yw'r 5ed mwyaf: ar ôl Asia, Affrica, gogledd America a De America. Mewn cymhariaeth mae Antartica oddeutu dwywaith yn fwy nag Awstralia.
Ar gyfartaledd yrAntartig yw'r cyfandir oeraf, sychaf a mwyaf gwyntog. Mae cyfartaledd ei uchter (uwch y môr) yn uwch nag unrhyw gyfandir arall. Gellir diffion Antarctig yn "ddiffeithwch", gyda glawiad o ddim ond 200 mm (8 mod) ar yr arfordir a llai nahynny i mewn i'r tir mawr. Mae'r tymheredd yn amrywio: gostyngodd i −89.2 °C (−128.6 °F) ychydig yn ôl, ond mae'r tymheredd fel arfer rhwng yn y trydych chwarter (y chwarter oeraf o'r flwyddyn) yn −63 °C (−81 °F).
Yn 2016 roedd 135 o bobl yn byw yno'n barhaol, ond ceir rhwng 1,000 a 5,000 yn byw yno'n achlysurol: y rhan fwyaf yn y gorsafoedd ymchwil. mae'r rhan fwyaf yn wyddonwyr sy'n astudio algae, bacteria, ffwng, planhigion, protista, ac anifeiliaid fel chwain, nematodeau, pengwiniaid, morloi a tardigradau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Antarctig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.