Safleoedd Rhyw

Safle sy'n cael ei ddefnyddio gan ddau berson yw safle rhyw pan maen nhw'n cael cyfathrach rywiol neu weithgareddau rhywiol arall.

Er bod cyfathrach rywiol yn cynnwys treiddiad rhywiol fel arfer, neu gyffroi organau rhywiol rhywun arall, nid oes rhaid i safle rhyw gynnwys treiddiad neu gyffroad. Ymarferir tri chategori o gyfathrach rywiol fel arfer: cyfathrach wain, sy'n cynnwys treiddio'r wain gyda phidyn neu offeryn arall, rhyw geneuol (y genau, y ceg), sy'n cynnwys cyffroi'r pidyn, gwain, neu anws gyda'r geg neu/a'r tafod; a rhyw rhefrol, sy'n cynnwys rhoi pidyn neu offeryn i mewn i'r anws. Gellid hefyd defnyddio'r bysedd neu ddwylo neu wneud cyd-fastyrbio megis gafael y pidyn a/neu'r ceilliau a'i rhwbio. Gellid defnyddio nifer o safleoedd rhyw wrth wneud cyfathrach wain, rhyw geneuol, neu ryw rhefrol, gan greu bron rhif di-ben-draw o safleoedd rhyw o ganlyniad.

Safleoedd treiddiol

Dyma'r prif rai; mae'r safleoedd hyn yn cynnwys rhoi pidyn neu offeryn rhyw (megis dildo) i mewn i'r wain neu anws:

Teitl Llun Disgrifiad
Safle cenhadol Safleoedd Rhyw  Safle rhyw rhwng dau bartner ydy safle cenhadol lle ceir cyfathrach rywiol gonfensiynol. Yn y safle hwn, mae'r ferch (neu'r derbyniwr) yn gorwedd ar ei chefn a'r dyn (neu'r rhoddwr) yn penlinio neu'n gorwedd rhwng ei choesau. Gan eu pont yn wynebu'i gilydd gallent gusanu ac edrych i lygaid ei gilydd - sy'n gwneud y safle hwn yn ffefryn gan gyplau rhamantus. Caiff ei defnyddio hefyd gan hoywon.
Rhyw o'r tu ôl Safleoedd Rhyw  Mae'r safle yma'n debyg i'r safle cenhadol, ond fod y derbynnydd wedi troi a'i chefn at y dyn.
Rhefru o'r tu ôl Safleoedd Rhyw  Rhyw sy'n cynnwys rhoi'r pidyn i mewn i ben ôl partner rhyw (dyn neu'n ddynes) yw rhyw rhefrol neu ryw ben-ôl. Amrywiaeth ar y thema hon yw Llam Llyffant (Saesneg: Leapfrog position), lle mae pen y partner sy'n derbyn ar ogwydd isel - yn cyffwrdd y llawr neu'r gwely.
Derbynnydd ar y top Safleoedd Rhyw  Safle rhyw rhwng dau bartner ydy derbynnydd ar y top lle ceir cyfathrach rywiol. Gelwir y safle rhyw yma hefyd yn safle cowboi. Gall y rhoddwr roi ei bidyn naill ai yng ngwain neu ym mhen ôl y derbyniwr.
Llwyau caru Safleoedd Rhyw  Safle sy'n ymdebygu i ddwy lwy ar eu hochrau ydy'r safle hwn. Mae penliniau'r derbynnydd fel arfer wedi eu plygu a gall y rhoddwr roi ei bidyn naill ai yng ngwain neu ym mhen ôl y derbyniwr. Caiff ei defnyddio'n aml pan fo'r ferch yn feichiog.
Rhyw tra'n sefyll Safleoedd Rhyw  Oherwydd pwysau'r derbyniwr, mae gofyn i'r dyn fod yn gymharol gryf i gynnal y pwysau. Amrywiaeth ar y safle hwn yw'r un lle gorffwysir pen-ôl y derbyniwr ar ddodrefnyn.

Rhyw andreiddiol

Mae' safleoedd hyn yn cynnwys: hunan leddfu, ffistio, byseddu, dŵad ar wyneb a bukkake.

Safleoedd Rhyw 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

Tags:

Cyfathrach rywiolOrgan rhywiolPidynRhyw geneuolRhyw rhefrol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ffilm yng NghanadaThe Salton SeaAnna MarekHTTPLindysTipitGwedros GawrManon AntoniazziBrysteAngharad LlwydGwyddor Seinegol RyngwladolThe Submission of Emma MarxUned brosesu ganologGŵyl Agor DrysauTwo For The MoneyDŵrTalaith Vibo ValentiaThe Kid From KansasMeesaya MurukkuTechnolegCyfathrach Rywiol FronnolSadwrn (planed)CemegGwladwriaeth PalesteinaYr Awyrlu BrenhinolDydd SulRhestr o seintiau CymruRhydychenThe Daily TelegraphComin WikimediaSongkran365 DyddRowan AtkinsonRiley ReidParalelogramPachhadlelaMathau GochDic JonesMudiadau cymdeithasol LHDTSafle cenhadolMichael AloniSouthfield, MichiganThe Greatest ShowmanSioned WiliamTim HenmanCemeg organigY TalibanEileen BeasleyRia JonesClustlys bychanPantPorth TywynSefydliad di-elwDistyllu ffracsiynolCaroline FlackPontrhydyfenCanyon PassagePhalacrocorax carboGoogle1874La Scuola CattolicaPwdin EfrogRabiYmosodiadau 11 Medi 2001FflorensDeddfwrfaStabat Mater Dolorosa🡆 More