Rhufain: Prifddinas yr Eidal

Prifddinas yr Eidal yw Rhufain ( ynganiad : Roma yn Eidaleg a Lladin).

Saif yng ngorllewin canolbarth yr Eidal ar lan Afon Tiber tua 30 km o lan Môr Tirrenia. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Gatholig Rufeinig mewn clofan yng nghanol y ddinas; hi yw gwlad leia'r byd. Mae gan y brifddinas boblogaeth o dros 2,748,109 (1 Ionawr 2023) ac arwynebedd o 1,285 km2 (496.1 mi sg). Y brifddinas ehangach, neu 'Rhufain Fwayf', a elwir hefyd yn 'Rhufain Fetropolitan', gyda'i phoblogaeth o tua 4,227,059 (Ionawr 2023), yw dinas fetroploitan fwyaf yn yr Eidal; cafodd ei sefydlu fel uned weinyddol ar 1 Ionawr 2015. Ceir 20 o ardaloedd gweinyddol yn yr Eidal, a saif Rhufain o fewn ardal Lazio. Yn y 2020au dinas Rhufain oedd y drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl poblogaeth o fewn terfynau dinasoedd.

Rhufain
Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern
Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern
Mathprifddinas, tref ar y ffin, abolished municipality in Italy, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, y ddinas fwyaf, tref goleg, dinas fawr, cymuned Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Roma.wav, Pl-Rzym.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,748,109 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 21 Ebrill 753 CC (wedi 814 CC, cyn 747 CC, founding of Rome, tua) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRoberto Gualtieri Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Paris, Kraków, Johannesburg, Cincinnati, Douala, Marbella, Bwrdeistref Achacachi, Tokyo, Sevilla, Benevento, Seoul, Contrada della Lupa, Plovdiv, Kyiv, Washington, Brasília, Beijing, Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
NawddsantSant Pedr, yr Apostol Paul Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Fetropolitan Rhufain Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd1,287.36 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr21 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tiber, Aniene, Môr Tirrenia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.8931°N 12.4828°E Edit this on Wikidata
Cod post00118–00199 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Rhufain Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Rhufain Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRoberto Gualtieri Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganRomulus, Remus Edit this on Wikidata

Fe'i galwyd gyntaf yn "Ddinas Dragwyddol" (Lladin: Urbs Aeterna; Eidaleg: La Città Eterna) gan y bardd Rhufeinig Tibullus yn 1g CC, a defnyddiwyd yr enw hefyd gan Ovid, Virgil, a Livy. Gelwir Rhufain hefyd yn "Caput Mundi" (Prifddinas y Byd). Yn ystod ei hanes hir bu Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rufeinig, y Weriniaeth Rufeinig, a'r Ymerodraeth Rufeinig.

Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, gefaill Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd ei frawd Remus yn ddiweddarach. Y dyddiad hwn yw sylfaen y Calendr Rhufeinig a Chalendr Iŵl (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddast (yn Eidaleg, La Lupa Capitolina).

Sefydlwyd Rhufain ar Fryn yr Haul (sef Bryn Palatîn), a ehangwyd i gynnwys Saith Bryn Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rhain ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn.

Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw'r Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasty'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth. Ceir nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerodrol, Y Fleiddast Gapitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), i'w gweld ledled y ddinas hyd heddiw.

Hanes

Hanes cynnar

Er y darganfuwyd tystiolaeth archaeolegol o aneddiadau dynol yn ardal Rhufain oddeutu 12,000 o flynyddoedd yn ôl (CP), mae'r haen drwchus o bridd a mater llawer iau yn cuddio'r safleoedd Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) ac Oes Newydd y Cerrig (Neolithig). Mae tystiolaeth o offer carreg, crochenwaith ac arfau cerrig yn tystio i oddeutu 10,000 o flynyddoedd o bresenoldeb dynol. Cafwyd sawl cloddiad archaeolegol sy'n cefnogi'r farn bod Rhufain wedi tyfu o aneddiadau bugeiliol ar Fryn Palatine a adeiladwyd uwchben ardal ble mae'r Fforwm Rhufeinig heddiw. Rhwng diwedd yr Oes Efydd a dechrau'r Oes Haearn, roedd pentref ar ben pob bryn rhwng y môr a'r Capitol (ar Fryn Capitol, ceir pentref a ddyddiwyd i'r 14g CC).

Brenhiniaethau a gweriniaeth

Ar ôl sefydlu'r ddinas gan Romulus, rheolwyd Rhufain am gyfnod o 244 mlynedd gan system frenhiniaethol, i ddechrau gyda brenhinoedd o dras Ladin a Sabine, yn ddiweddarach gan frenhinoedd Etrwscaidd. Trosglwyddwyd yn ôl y traddodiad saith brenin: Romulus, Numa Pompilius, Tullus Hostilius, Ancus Marcius, Tarquinius Priscus, Servius Tullius a Lucius Tarquinius Superbus.

Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern 
Palasau hynafol, ymerodrol-Rufeinig y Palatino, cyfres o balasau sydd wedi'u lleoli ym Mryn y Palatino, yn amlwg yn mynegi pŵer a chyfoeth yr ymerawdwyr o Augustus tan y 4g.

Yn 509 CC, diarddelodd y Rhufeiniaid y brenin olaf o'u dinas a sefydlu gweriniaeth oligarchig. Yna cychwynnodd Rhufain gyfnod a nodweddir gan frwydrau mewnol rhwng uchelwr a'r werin (neu'r 'plebeiaid', sef tirfeddianwyr tlawd), a chan ryfela cyson yn erbyn pobl o ganol yr Eidal: Etruscans, Latins, Volsci, Aequi, a Marsi. Ar ôl gorchfygu Latium, arweiniodd Rhufain sawl rhyfel (yn erbyn y Gâliaid, Osci-Samniaid a threfedigaeth Roegaidd Taranto, ynghyd â Pyrrhus, brenin Epirus) a chanlyniad hyn i gyd oedd concwest penrhyn yr Eidal, o'r ardal ganolog hyd at Magna Graecia.

Yn y 3 a'r 2g CC, sefydlwyd tra-arglwyddiaeth Rhufeinig dros Fôr y Canoldir a'r Balcanau, trwy'r tri Rhyfel Pwnig (264–146 CC) a ymladdwyd yn erbyn dinas Carthago a'r tri Rhyfel Macedoneg (212–168 CC) yn erbyn Macedonia. Sefydlwyd y taleithiau Rhufeinig cyntaf ar yr adeg hon: Sisili, Sardinia a Corsica, Hispania, Macedonia, Achaea ac Affrica.

Yn ail hanner yr 2g CC ac yn ystod y 1g CC bu gwrthdaro dramor ac yn fewnol. Wedi i'r ymgais i ddiwygio-cymdeithasol Tiberius a Gaius Gracchus fethu, ac wedi'r rhyfel yn erbyn Jugurtha, cafwyd rhyfel cartref cyntaf rhwng Gaius Marius a Sulla. Yna, cafwyd gwrthryfel enfawr gan y caethweision o dan Spartacus, ac yna sefydlu'r Triwriaeth (Triumvirate) cyntaf gyda Cesar, Pompey a Crassus.

Gwnaeth concwest Gâl y Cesar yn hynod bwerus a phoblogaidd, ac arweiniodd hyn at ail ryfel cartref yn erbyn y Senedd a Pompey. Ar ôl ei fuddugoliaeth, sefydlodd Cesar ei hun fel unben am oes.

Daearyddiaeth

Er bod canol y ddinas tua 24 cilomedr (15 milltir) i mewn i'r tir o'r Môr Tirrenia, mae tiriogaeth y ddinas yn ymestyn i'r lan, lle mae ardal de-orllewinol Ostia. Mae uchder rhan ganolog Rhufain yn amrywio o 13 metr (43 tr) uwch lefel y môr (ar waelod y Pantheon) i 139 metr (456 tr) uwch lefel y môr (copa Monte Mario). Arynebedd Cymuned Rhufain yw tua 1,285 cilomedr sgwâr (496 metr sgwâr), gan gynnwys llawer o ardaloedd gwyrdd.

Hinsawdd

Mae gan Rufain hinsawdd Môr y Canoldir (dosbarthiad hinsawdd Köppen: Csa), gyda hafau poeth, sych a gaeafau mwyn a llaith. Mae ei dymheredd blynyddol ar gyfartaledd yn uwch na 21 °C (70 °F) yn ystod y dydd a 9 °C (48 °F) gyda'r nos. Yn y mis oeraf, Ionawr, y tymheredd cyfartalog yw 12.6 °C (54.7 °F) yn ystod y dydd a 2.1 °C (35.8 °F) gyda'r nos. Yn y mis cynhesaf, sef Awst, y tymheredd ar gyfartaledd yw 31.7 °C (89.1 °F) yn ystod y dydd a 17.3 °C (63.1 °F) gyda'r nos.

Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yw'r misoedd oeraf, gyda thymheredd cymedrig dyddiol oddeutu 8 °C (46 °F). Mae'r tymeredd yn ystod y misoedd hyn yn gyffredinol yn amrywio rhwng 10 a 15 °C (50 a 59 °F) yn ystod y dydd a rhwng 3 a 5 °C (37 a 41 °F) gyda'r nos, gyda chyfnodau oerach neu gynhesach yn digwydd yn aml. Mae cawod o eira'n ddigwyddiad anaml, gydag eira ysgafn neu heidiau yn digwydd ar rai gaeafau, a rhaeadrau eira mawr ar ddigwyddiad prin iawn (roedd y rhai mwyaf diweddar yn 2018, 2012 a 1986).

Y lleithder cymharol ar gyfartaledd yw 75%, gan amrywio o 72% yng Ngorffennaf i 77% ym mis Tachwedd. Mae tymheredd y môr yn amrywio o isaf o 13.9 °C (57.0 °F) yn Chwefror i uchafbwynt o 25.0 °C (77.0 °F) yn Awst.

Adeiladau a chofadeiladau modern

  • Basilica Sant Pedr
  • Cofadail Vittorio Emanuele II
  • Palazzo della Cancelleria
  • Palazzo Farnese
  • Piazza Navona
  • Piazza Venezia
  • Ponte Sant'Angelo
  • Plas Quirinal
  • Grisiau Ysbaeneg
  • Ffynnon Trevi
  • Ffynnon Triton
  • Villa Borghese
  • Villa Farnesina
Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern 
Basilica San Pedr

Pobl o Rufain

Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern 
Lleoliad Rhufain yn Ewrop
Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern 
Baner Rhufain

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Rhufain: Hanes, Daearyddiaeth, Adeiladau a chofadeiladau modern  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

Rhufain HanesRhufain DaearyddiaethRhufain Adeiladau a chofadeiladau modernRhufain Pobl o RufainRhufain CyfeiriadauRhufain Dolenni allanolRhufain2020auAfon TiberClofanDelwedd:It-Roma.oggDinas y FaticanEglwys Gatholig RufeinigEidalegIt-Roma.oggLazioLladinMôr TirreniaPabUndeb EwropeaiddWicipedia:TiwtorialYr Eidal

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

MiledCronfa ddataCaerloywEuros BowenThey Live By NightDinas Efrog NewyddLlangelynnin, ConwyAnilingusYnysWyn LodwickXHamsterCeidwad y GannwyllImmanuel KantIfan Morgan JonesCorsen (offeryn)Cyfathrach Rywiol FronnolParth cyhoeddusRhyw diogelAlexandria RileyConnecticutCascading Style SheetsKristen StewartSaddam HusseinPolcaAdran Gyfiawnder yr Unol DaleithiauTai (iaith)Edward VII, brenin y Deyrnas UnedigSinematograffyddRowan AtkinsonRhydychenThe Kid From KansasMichal Miloslav HodžaThe Submission of Emma MarxAs Duas IrenesEiry ThomasLa Monte YoungPrydwenY Wladfa1997Deddf UnoBora BoraLlysiau'r baraYr AlmaenMathau GochIâr (ddof)Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016Joy LavilleLlanpumsaintTeyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd IwerddonSiot dwad wynebIfor ap LlywelynCemegMeginGwyddoniaethY Tebot PiwsAngharad LlwydCi defaidUnol Daleithiau AmericaOut-Of-SyncCodiadBrwydr FormignySystème universitaire de documentationThe Salton SeaDisgyrrwr caledKate CrockettPersegData cysylltiedigDistyllu ffracsiynol1880COVID-19After Porn Ends 2Aberhonddu🡆 More