Hanesydd Groeg oedd Herodotus neu Herodotus o Halicarnassus (Groeg Hρόδοτος hλικαρνoσσεύς) (c.485 CC - 425 CC), a aned yn Halicarnassos, trefedigaeth Roegaidd ar arfordir deheuol Asia Leiaf.
Cicero a'i alwodd yn "Dad Hanes" am y tro cyntaf.
Herodotus | |
---|---|
Ganwyd | c. 484 CC Halicarnassus |
Bu farw | Thurii |
Man preswyl | Halicarnassus, Samos, Thurii |
Dinasyddiaeth | Halicarnassus |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, ysgrifennwr, daearyddwr |
Adnabyddus am | Historiau Herodotus |
Pan ddaeth y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf yn rhydd o reolaeth Persia, teithiodd Herodotus yn Asia Leiaf, ynysoedd Môr Egeaidd, Gwlad Groeg, Macedonia, Thracia, arfordir y Môr Du, Persia, Tyre a Ffenicia, yr Aifft a Cyrenaica. Yn 443 CC aeth i'r drefedigaeth Athenaidd newydd Thurii, ar Gwlff Tarentino. Oddi yno ymwelodd â Sisili a sawl dinas yn ne'r Eidal. Roedd yn ddyn chwilfrydig iawn, a chasglai bob math o ddeunydd yn ymwneud â hanes, mytholeg, daearyddiaeth, ethnoleg ac archaeoleg yr Henfyd a'r tu hwnt.
Ei fwriad oedd cyfansoddi llyfr hanes yn olrhain cwrs ac achosion y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r barbaroi (barbariaid neu estronwyr). Mae ei lyfr enwog yr Historiai yn dechrau gyda chwncwest y dinasoedd Groegaidd yn Asia Leiaf gan yr ymerodr Persiaidd Croesus. Wedyn cawn hanes Lydia, Persia, Babilon a'r Hen Aifft. Mae'r llyfr yn gorffen â hanes y Rhyfeloedd Persiaidd (500 CC - 479 CC).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Herodotus, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.