Gogledd Corea

Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea (Chosŏn'gŭl: 조선민주주의인민공화국; Chosŏn Minjujuŭi Inmin Konghwaguk) neu Gogledd Corea (gwrando).

Mae wedi'i lleoli yn hanner gogleddol Penrhyn Corea. Mae'n ffinio â De Corea i'r de, Tsieina i'r gogledd a Rwsia i'r gogledd-ddwyrain. Ei phrifddinas yw Pyongyang sef dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth ac arwynebedd. Ceir dwy afon ar y ffin gyda Tsieina: Afon Amnok ac Afon Tumen. Mae gan y wlad arfau niwclear ac wedi dod a'u trafodaethau heddwch, gyda De Corea a'r UDA i ben. Mae'r Unol Daleithiau a Tsieina wedi cytuno ar sancsiynau newydd i gosbi Gogledd Corea am ddatblygu taflegrau pellgyrhaeddol, ac am eu profion niwclear diweddar (2013).

Gogledd Corea
Gogledd Corea
Gogledd Corea
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gweriniaeth y bobl, hermit kingdom Edit this on Wikidata
Lb-Nordkorea.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Coreea de Nord.wav, En-us-North Korea.ogg, Eo-Nord-Koreio.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasP'yŏngyang Edit this on Wikidata
Poblogaeth25,490,965 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Medi 1948 (Provisional People's Committee for North Korea) Edit this on Wikidata
AnthemAegukka Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKim Jae-ryong Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
North Korean standard language, Coreeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Corea Gogledd Corea
Arwynebedd120,540 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Melyn, Môr Japan Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDe Corea, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40°N 127°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of North Korea Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSupreme People's Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Supreme Leader of North Korea Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKim Jong-un Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Premier of North Korea Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKim Jae-ryong Edit this on Wikidata
ArianNorth Korean won Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.979 Edit this on Wikidata

Conglfaen eu hathrawiaeth ydy disgyblaeth wleidyddol y Chuch'e (neu Juche), sef athrawiaeth Kim Il-sung sy'n mynnu fod datblygiad y wlad yn nwylo'r werin datws. Defnyddir yr athrawiaeth hon gan Lywodraeth y wlad i gyfiawnhau ei gweithredoedd.

Collodd Gogledd Corea ffrind mynwesol a phwerus pan ddatgymalwyd yr Undeb Sofietaidd ym 1991, er bod ganddi gysylltiad cryf gyda Tsieina. Ar ben hyn dioddefodd y wlad oherwydd sawl trychineb naturiol a phrofodd newyn enbyd rhwng 1994 a 1998; credir i rhwng 240,000 i 1,000,000 o bobl farw.

Hanes creu'r ddwy Weriniaeth

Llywodraethwyd y penrhyn gan Ymerodraeth Corea o ddiwedd y 19g i ddechrau'r 20g, pan gafod ei reoli gan Japan yn 1910. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd peidiodd y cysylltiad hwn gyda Japan a rhannwyd y penrhyn yn ddau gyda Rwsia'n rheoli'r gogledd ac Unol Daleithiau America'n rheoli'r de. Ym 1948, dan oruchwyliaeth y Cenhedloedd Unedig, cynhaliwyd etholiadau yn y ddwy wlad a chyhoeddwyd dwy lywodraeth ar wahân yn y ddau ranbarth: Gwladwriaeth Ddemocrataidd Pobl Corea yn y gogledd a Gwladwriaeth Corea yn y de.

Cyhoeddodd y gogledd a'r de, yn eu tro, eu hawl sofran i reoli'r penrhyn cyfan a ffrwydrodd y dadlau'n rhyfel erbyn 1950: Rhyfel Corea.

Kim Il-sung (1912-94) a Rhyfel Corea

Ymosododd Gogledd Corea ar y De, dan eu harweinydd comiwnyddol Kim Il-sung rhwng 1950 a 1953, ond cawsant eu hatal gan fyddin yr UDA. Ers hynny dysgir plant ysgolion y Gogledd fod milwyr America wedi cyflawni erchyllterau rhyfel yn erbyn pobl y wlad. Cânt eu cyflyru i gredu y daw dydd pan fydd America'n ailadrodd hyn ac mai'r unig ymwared rhag y fath ymosodiad yw cadernid y teulu Kim, a'u harbedodd y tro diwethaf yn 1953. Cafwyd cadoediad yn 1953, ond yn swyddogol mae'r ddwy wlad yn parhau i fod mewn stâd o ryfel, gan nad arwyddwyd y cytundeb. Derbyniwyd y ddwy wlad fel aelodau o'r Cenhedloedd Unedig yn 1991.

Wedi marwolaeth Kim Il-sung, mabwysiadwyd ei athrawiaeth Chuch'e yn lle sosialaeth Marx-Lennin drwy'r wlad pan gyhoeddwyd Cyfansoddiad Gogledd Corea yn 1973. Yn 2009, dilëwyd pob cyfeiriad at gomiwnyddiaeth (Chosŏn'gŭl: 공산주의) o'r Cyfansoddiad.

Dyrchafwyd Kim yn "Llywydd Tragwyddol" y wlad, gan roi elfen ddwyfol iddo.

Kim Jong-il (1942-11)

Yn ôl y chwedl, gwelwyd enfys ddwbl ar ddiwrnod genedigaeth Kim, yn arwydd o'i enedigaeth fraint a'i ddwyfoldeb. Fe'i dyrchafwyd yn dduw mabolgampau a cheir nifer o storïau swyddogol sy'n ei godi'n uwch na'r cyffredin e.e. yn ei gêm gyntaf o golff, llwyddodd i daro 11 twll-mewn-un. Stori arall a grëwyd gan y wlad yw iddo arwain tim pêl-droed Gogledd Corea yng Nghwpan y Byd gyda thechnoleg "ffôn-llaw anweledig" roedd Kim ei hun wedi'i ddyfeisio.

O ganlyniad i ddatgymalu'r Undeb Sofietaidd a chreu Gogledd Corea'n wlad ynysig, unig, galwyd hi'n "Deyrnas Feudwyaidd" neu "Meudwy o Wlad" sy'n ailwampiad o enw a dadogwyd i Ymerodraeth Corea yntau flynyddoedd yn ôl. Ceir etholiadau, mewn enw'n unig, a gelwir y Weriniaeth gan y cyfryngau'n "Unbennaeth Stalinistaidd a Thotalitaraidd."

Kim Jong-un (ganwyd 1983 neu 84)

Etifeddodd Kim yr arweinyddiaeth yn 2011, a gwelwyd ar unwaith ei fod yn arweinydd "a'i draed ar y ddaear", gan ymweld yn aml â'r bobl gyffredin a gwenu llawer. Trydydd mab Kim Jong-il oedd ef.

Addysg ac Iechyd

Mae addysg i bawb, o bob oed, am ddim. Mae'n un o wledydd mwyaf llythrennog y byd gyda chyfartaledd o 99% o bobl yn medru darllen ac ysgrifennu. Ceir gwasanaeth iechyd cenedlaethol sy'n gyfan gwbl am ddim i bawb. Mae'r wlad hefyd yn cyfrannu'n helaeth i ddod a phrisiau bwyd i lawr.

Gogledd Corea 
Cabined deintyddol yn un o ysbytai mawr y wlad.

Daearyddiaeth

Gogledd Corea 
Topograffeg Gogledd Corea

Gorwedd y Wladwriaeth rhwng lledred 37° a 43°Gog a hydred 124° a 131°Dwy. Mae ganddo arwynebedd o 120,540 km2. I'r gorllewin saif y Môr Melyn a Bae Corea a thros Fôr Japan mae Japan ei hun. Y copa uchaf yn y wlad ydy Mynydd Baekdu sy'n 2,744 m a'r afon hiraf ydy Afon Amnok sy'n llifo am 790 m. Y brifddinas (a'r ddinas fwyaf) ydy Pyongyang; ac ymhlith dinasoedd pwysicaf y wlad mae Kaesong yn y de, Sinuiju yn y gogledd-orllewin, Wonsan a Hamhung yn y dwyrain a Chongjin yn y gogledd-ddwyrain.

Map Enwa Chosŏn'gŭl Rhanbarth weinyddol
Gogledd Corea 
Rason
Nampo
De Pyongan
Rhanbarth Gogledd Hwanghae
Rhanbarth De Hwanghae
Rhanbarth Kangwon
Rhanbarth De Hamgyong
Rhanbarth Gogledd Hamgyong
Rhanbarth Ryanggang
Rhanbarth Chagang
Gogledd Pyongan
Y Môr Melyn
(Môr Gorllewin Corea)
Bae Corea
Prifddinas (chikhalsi)a
1 Pyongyang 평양직할시 (Chung-guyok)
Dinas arbennig (teukbyeolsi)a
2 Rason * 라선특별시 (Rajin-guyok) *
Rhanbarth (do)a
3 De Pyongan 평안남도 Pyongsong
4 Gogledd Pyongan 평안북도 Sinuiju
5 Rhanbarth Chagang 자강도 Kanggye
6 Rhanbarth De Hwanghae 황해남도 Haeju
7 Rhanbarth Gogledd Hwanghae 황해북도 Sariwon
8 Rhanbarth Kangwon 강원도 Wonsan
9 Rhanbarth De Hamgyong 함경남도 Hamhung
10 Rhanbarth Gogledd Hamgyong 함경북도 Chongjin
11 Rhanbarth Ryanggang * 량강도 Hyesan
* – Cofnodir mewn tafodiaith y De fel "Yanggang" (양강), "Nason" (나선), neu "Najin" (나진).

Hawliau dynol

Yn ôl Amnest Rhyngwladol a'r Human Rights Watch ceir cyfyngiadau ar hawliau sylfaenol dinasyddion y wlad, er bid y Llywodraeth yn wfftio hyn.

Yn y 1990au cosbwyd pobl y wlad a oedd yn gwrando ar Radio De Corea yn ddifrifol; danfonwyd nifer i garchardai am ganu caneuon o Dde Corea.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Gogledd Corea Hanes creur ddwy WeriniaethGogledd Corea Kim Il-sung (1912-94) a Rhyfel CoreaGogledd Corea Kim Jong-il (1942-11)Gogledd Corea Kim Jong-un (ganwyd 1983 neu 84)Gogledd Corea Addysg ac IechydGogledd Corea DaearyddiaethGogledd Corea Hawliau dynolGogledd Corea Gweler hefydGogledd Corea CyfeiriadauGogledd CoreaAfon TumenArfau niwclearAsiaCoreaDe CoreaEn-us-North Korea.oggHangulPyongyangRwsiaTsieinaUnol Daleithiau AmericaYnghylch y sain yma

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

PachhadlelaEThe ScalphuntersHermitage, BerkshireLaboratory ConditionsCoch y BerllanCeniaThe UntamedCelfCerdd DantBeirdd yr UchelwyrComisiynydd y GymraegNi LjugerGuns of The Magnificent SevenThe Tin StarHolmiwmErwainGwyddelegBethan GwanasPoner el Cuerpo, Sacar la VozTîm pêl-droed cenedlaethol CymruClyst St MaryElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigLa Ragazza Nella NebbiaAsiaPurani KabarRwsiaTywysog CymruSemenCymraegDylunioNesta Wyn JonesYr Undeb SofietaiddY Cae RasYstadegaethFfilm llawn cyffroUn Nos Ola LeuadFfilmCorsen (offeryn)The FeudCyfeiriad IPDmitry MedvedevCristofferIâr ddŵrY FenniCedorNaturIncwm sylfaenol cyffredinolAlan TuringEmmanuel MacronYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaOwen Morris RobertsCysgod TrywerynSonu Ke Titu Ki SweetyAyalathe AdhehamGalawegThe Fighting StreakJuan Antonio VillacañasVolkswagen TransporterLlun FarageLingua Franca NovaTywodfaenAled a Reg (deuawd)ÆgyptusRobert RecordeLlyn CelynEfrog NewyddSex TapeBahadur Shah ZafarTaith y PererinOlwen ReesDulyn🡆 More