Seoul

Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o dros 9,668,465 (2020) ac mae gan Seoul Fwyaf boblogaeth o 24,105,000 (2016).

Seoul
Seoul
Seoul
Mathdinas arbennig De Corea, dinas fawr, dinas, mega-ddinas, metropolis, y ddinas fwyaf, prifddinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlprifddinas Edit this on Wikidata
PrifddinasJung District Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,668,465 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Mehefin 1395 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOh Se-hoon Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Coreeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSeoul Fwyaf Edit this on Wikidata
GwladBaner De Corea De Corea
Arwynebedd605.25 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Han, Cheonggyecheon, Jungnangcheon, Anyangcheon, Tancheon, Yangjaecheon Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Gyeonggi, Incheon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.56°N 126.99°E Edit this on Wikidata
KR-11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Fetropolitan Seoul Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor trefol Seoul Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Seoul Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOh Se-hoon Edit this on Wikidata

Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffîn a Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong. Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.

Yn 2014, dinas Seoul oedd y 4edd dinas fetropolitan fwyaf ei heconomi yn y byd ar ôl Tokyo, Efrog Newydd a Los Angeles. Yn 2017, roedd costau byw yn y ddinas y 6ed uchaf yn y byd. Gyda chanolfannau technoleg enfawr wedi eu canoli yn Gangnam a'r Ddinas Cyfryngau Digidol, mae Seoul Fwyaf yn gartref i bencadlys 14 o gwmniau mwya'r byd, sef y Fortune Global 500, gan gynnwys Samsung, LG, a Hyundai.

Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1988 a gêm derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 2002; yma hefyd oedd cynhadledd y G-20 yn 2010.

Wedi'i lleoli'n strategol ar hyd glannau Afon Han, mae hanes y ddinas yn ymestyn yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd, ers ei sefydlu yn 18 CC gan bobl Baekje, un o Dair Teyrnas Corea. Yn 1394 dynodwyd y ddinas yn brifddinas Corea o dan y Brenhinllin Joseon (1392-1897), ac yn 1948 yn brifddinas De Corea. Amgylchynir y ddinas gan ardal fynyddig a bryniog, gyda Mynydd Bukhan ar ymyl ogleddol y ddinas. Mae gan Seoul Fwyaf (neu weithiau 'Ardal Prifddinas Seoul') bum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Changdeok Palace, Caer Hwaseong, Cysegrfa Jongmyo, Namhansanseong a Beddrodau Brenhinol y Brenhinllin Joseon.

Geirdarddiad

Mae enwau blaenorol y ddinas yn cynnwys: Wiryeseong (Coreeg: 위례성; Hanja: 慰禮城, yn y Cyfnod Baekje), Hanyang (한양; 漢陽, yn y Cyfnod Goryeo), Hanseong (한성; 漢城, y Cyfnod Joseon), a Keijō (京城) neu Gyeongseong (경성) yn ystod y cyfnod pan meddiannwyd Corea gan Japan.

Dan reolaeth Japan, newidiwyd yr enw o Hanseong (漢城) i Keijō (京城) gan yr awdurdodau imperialaidd i atal dryswch gyda'r gair cyffelyb 'hanja' '' (cyfieithiad o'r gair Coreeg Han () sef "gwych"), sydd hefyd yn cyfeirio at y bobl Han o'r Frenhinlyn Han ac sy'n golygu 'Tsieina' mewn Tsieineeg a Japaneg.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a c annibyniaeth De Corea, cymerodd y ddinas ei henw presennol, sy'n tarddu o'r gair Corea sy'n golygu "prifddinas". Mae'r gair yma'n tarddu o Seorabeol (Coreeg: 서라벌; Hanja: 徐羅伐), a gyfeiriai'n wreiddiol at Gyeongju, sef prifddinas Silla.

Hanes

Hanes cynnar

Cofnodir enw gwreiddiol y ddinas yn gyntaf fel 'Wiryeseong', prifddinas Baekje (a sefydlwyd yn 18 CC) yn ardal gogledd-ddwyrain o ddinas fodern. Ceir nifer o waliau gwreiddiol y ddinas o'r cyfnod hwn. Gelwir un o'r rhain yn "Pungnaptoseong", yn ne-ddwyrain y ddinas, a chredir fod y wal yma'n dyddio o gyfnod y Wiryeseong. Gan i'r Dair Teyrnas gystadlu am yr ardal strategol hon, trodd rheolaeth o'r ddinas o Baekje i Goguryeo yn y 5g, ac o Goguryeo i Silla yn y 6g.

Y canoloesoedd

Yn y 11g adeiladodd Goryeo, a olynnodd Silla, balas enfawr yn Seoul, y cyfeiriwyd ato fel y "Prifddinas y De". Dyma'r cyfnod pan dyfodd y ddinas fwyaf. Pan ddisodlwyd Goryeo gan Joseon, symudwyd y brifddinas i Seoul, lle arhosodd tan cwymp y frenhinllyn. Gwasanaethodd Palas Gyeongbok, a adeiladwyd yn y 14g, fel y breswylfa frenhinol tan 1592. Gwasanaethodd palas mawr eraill, Changdeokgung, a adeiladwyd ym 1405, fel y prif Palas Brenhinol rhwng 1611-1872. Ar ôl y cyfnod Joseon newid ei enw i Ymerodraeth Corea ym 1897.

Awdurdodau Dosbarth

Rhennir Seoul yn 25 awdurdod dosbarth, neu gu (구) yng Nghoreeg.

Seoul 
Awdurdodau dosbarth Seoul

Cyfeiriadau

Tags:

Seoul GeirdarddiadSeoul HanesSeoul Y canoloesoeddSeoul Awdurdodau DosbarthSeoul CyfeiriadauSeoulCoreegDe Corea

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

MaltaPaula FoxGemma HartmannBBC CymruSimon ArmitageDyfan RobertsLe Grand, IowaMershamMynyddGruffydd WynC.P.D. WrecsamGwyddoniadurEsperantoLlygaid siglogFfilm gyffroDwyrain BerlinMikheil SaakashviliSombreroXboxYr IseldiroeddHaulMamalYr HolocostJapanegMan From CheyenneEversleyEtholiad Senedd Ewrop, 2019JapanCyfathrach Rywiol FronnolAntony Armstrong-JonesBod dynolHenry David Thoreau1829Cartref Eich HunBarcud cochYr AlmaenWhatsAppMôrJosefine Mutzenbacher – Wie Sie Wirklich WarCymanfa ganuCoeden geirios JapanIsrael2 EbrillThe Dancer of ParisPrairie ThunderArthurForbesLucy WalterGwefanAberth MorwynAnimeiddioCristnogaethCamriGorffennaf638GalwedigaethCyflafan y beirddThe Birdcage (ffilm)dreigiau gwentEva StrautmannManon LescautCaerloywMeirion EvansLiveLewis CarrollCyfrifiadur personolSimbalomY Dreflan - Ei Phobl a'i PhethauJames Scott, Dug Mynwy 1afEglwys Sant TeiloRhyw llawCymraeg🡆 More