Marilyn Monroe: Actores a aned yn 1926

Actores eiconaidd, cantores a model Americanaidd oedd Norma Jeane Mortenson neu Marilyn Monroe (1 Mehefin 1926 – 5 Awst 1962), ganwyd yn Los Angeles, yn yr Unol Daleithiau.

Marilyn Monroe
Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth
FfugenwMarilyn Monroe Edit this on Wikidata
GanwydNorma Jeane Mortenson Edit this on Wikidata
1 Mehefin 1926 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Bu farw4 Awst 1962, 5 Awst 1962 Edit this on Wikidata
o gorddos barbitwrad Edit this on Wikidata
Brentwood Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, model, cynhyrchydd ffilm, canwr, hunangofiannydd, Playmate, model ffasiwn, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGentlemen Prefer Blondes, The Seven Year Itch, The Prince and The Showgirl, Some Like It Hot, The Misfits Edit this on Wikidata
Taldra166 centimetr, 165 centimetr, 65.5 modfedd Edit this on Wikidata
TadCharles Stanley Gifford Edit this on Wikidata
MamGladys Monroe Edit this on Wikidata
PriodJames Dougherty, Joe DiMaggio, Arthur Miller Edit this on Wikidata
PartnerJohn F. Kennedy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, David di Donatello, Targa d'Oro, Gwobr Henrietta, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Golden Globes Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://marilynmonroe.com Edit this on Wikidata
llofnod
Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth

Hyd y dydd hwn mae hi'n un o'r sêr ffilm, symbolau rhyw enwocaf yr 20g. Treuliodd gyfnodau helaeth o'i phlentyndod mewn cartrefi maeth, cyn dechrau ei gyrfa fel model a arweiniodd at gytundeb i fod mewn ffilm ym 1946

Ar ôl actio rhannau bach mewn ffilmiau am rai blynyddoedd daeth i gael ei hadnabod yn raddol am ei doniau digrifol, ei hapêl rywiol a'i phresenoldeb arbennig ar y sgrîn fawr. Cafodd ei canmol am ei dawn actio comedi yn y ffilm Gentlemen Prefer Blondes, How to Marry a Millionaire a The Seven Year Itch a thyfodd i fod yn un o'r actorion Hollywood mwyaf poblogaidd yn y 1950au. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa chwareuodd rannau mwy difrifol gyda rhwy fesur o lwyddiant.

Priododd y pêl-droediwr Joe DiMaggio ond chwalodd y briodas. Tra'n briod â'r dramodydd Arthur Miller, astudiodd yn Stiwdio'r Actorion a chreodd cynyrchiadau Marilyn Monroe. Canmolwyd ei pherfformiad yn "Bus Stop" gan William Inge, ac enillodd Golden Globe am ei pherfformiad yn Some Like It Hot.

Yn ddiweddarach, fodd bynnag, llesteiriwyd ei gyrfa gan broblemau hir-dymor a siomedigaethau yn ei gyrfa actorol a'i bywyd personol. Bu farw mewn amgylchiadau amheus, o or-ddos o gyffuriau, yn 1962, yn 35 oed. Er i'r crwner ddatgan yn swyddogol mai "hunanladdiad tebygol" oedd achos ei marwolaeth, ni wrthodwyd y syniad o or-ddos damweiniol, tra bod eraill yn dadlau iddi gael ei llofruddio.

Ym 1999, rhoddwyd Marilyn Monroe yn y chweched safle o'r ser benywaidd gorau erioed gan y Gymdeithas Ffilm Americanaidd.

Ei Theulu a'i Bywyd Cynnar

Ganwyd Monroe yn Ysbyty Sirol Los Angeles , yn drydydd plentyn i Gladys Pearl Baker (1902–1984).

Dywed tystysgrif geni Monroe mai enw ei thad oedd Edward Mortensen, dyn o Norwy. Priododd Gladys Baker Martin E. Mortensen ym 1924, ond gwahanodd y ddau cyn beichiogrwydd Gladys. Awgryma nifer o fywgraffyddwyr Monroe's biographers fod Gladys Baker wedi defnyddio ei enw ef er mwyn osgoi'r stigma o gael plentyn llwyn a pherth. Ysgarodd Mortensen Gladys ar y 5ed o Fawrth, 1927, a daeth yr achos i ben ar y 15fed o Hydref, 1928. Pan bu farw Mortensen, yn 85 oed, darganfuwyd tystysgrif geni Monroe, ynghyd â thystysgrif priodas ac ysgariad ei rhieni a brofodd nad plentyn anghyfreithlon mohoni.

Trwy gydol ei bywyd, gwadodd Marilyn Monroe mai Mortensen oedd ei thad. Dywedodd pan oedd yn blentyn, dangoswyd ffotograff iddi o ddyn y dywedodd Gladys Baker oedd ei thad. Cofiodd Monroe fod ganddo fwstas tenau ac edrychai rhywbeth yn debyg i Clark Gable, a'i bod yn digrifio'i hun trwy esgus mai Gable oedd ei thad, ond ni chafodd wybod yn sicr pwy oedd ei thad. Am fod ganddi broblemau meddyliol ac am ei bod yn rhy dlawd i ofalu am Norma Jean, rhoddodd Gladys ei merch i rieni maeth o'r enw Albert a Ida Bolender o Hawthorne, Califfornia, lle trigodd Monroe nes ei bod yn saith mlwydd oed. Yn ei hunangofiant, My Story (a gafodd ei gy-ysgrifennu gyda'r sgriptiwr a'r nofelydd Ben Hecht,) dywedodd Monroe ei bod yn credu mai'r Bolenders oedd ei rhieni go iawn nes i Ida ei chywiro. Ar ôl hyn, cyfeiriodd Norma Jeane atynt fel ei modryb a'i hewythr.

Yn ystod un o'i hymweliadau wythnosol, dywedodd Gladys wrth Norma Jeane ei bod wedi prynu tŷ ar eu cyfer, a rhoddwyd caniatad i Norma Jeane i fynd i fyw at ei mam. Ychydig fisoedd ar ôl symud i mewn, dioddefodd Gladys o broblemau meddyliol. Yn My Story, cofiodd Monroe i'r amseroedd pan oedd ei mam yn "sgrechian ac yn chwerthin", wrth iddi gael ei gorfodi i fynd i'r Ysbyty Sirol yn Norwalk. Rhoddwyd Monroe dan ofal y dalaith, a daeth ffrind gorau Gladys, Grace McKee, yn warcheidwad cyfreithiol iddi. McKee oedd y person a ddywedodd wrth Monroe y byddai, rhyw ddiwrnod, yn "...an important woman... a movie star". Roedd Grace wrth ei bodd â Jean Harlow, ac arferai ganiatau i Norma Jeane wisgo colur a chyrlio'i gwallt. Arferent fynd i'r sinema gyda'i gilydd, gan ddechrau diddordeb Norma Jeane gyda'r sinema a ser y sgrîn fawr.

Pan briododd Grace McKee Ervin Silliman Goddard ym 1935, danfonwyd Monroe i Gartref Plant Amddifad Los Angeles, (a gafodd ei ail-enwi'n Hollygrove yn ddiweddarach). Dwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd Norma Jeane yn ôl i fyw gyda Grace, Goddard ac un o ferched Goddard o briodas blaenorol. Pan geisiodd Goddard gamdrin Norma Jeane, danfonodd Grace hi i fyw gyda'i hen fodryb, Olive Brunings. Ymosododd un o feibion Olive Norma Jeane pan oedd yn ddeuddeg oed, ac aeth i fyw gyda modryb Grace, Ana Lower. Pan ddatblygodd Ana broblemau iechyd, aeth Norma Jeane i fyw gyda Grace ac Ervin Goddard unwaith eto, lle cyfarfu â mab eu cymydog, Jim Dougherty, a dechreuodd berthynas gydag ef.

Am fod Grace a'i gŵr ar fin symud i arfordir orllewinol yr Unol Daleithiau, nid oeddent yn medru mynd a Norma Jeane gyda hwy. Roedd teulu arall eisiau mabwysiadu Norma Jeane ond nid oedd Gladys wedi cytuno i hyn. Awgrymodd Grace i gymydog y gallai ei mab, James Dougherty, briodi Norma Jeane er mwyn sicrhau nad oedd yn dychwelyd i'r cartref i blant amddifad, ac ym Mehefin 1942, priododd y ddau. Arhosodd y ddau yn briod tan 1946 pan benderfynodd Monroe ddilyn ei gyrfa ei hun.

COUCOU

Ei Gyrfa

Modeli a'i gwaith ffilm cynnar

Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth 
Norma Jean Dougherty ar glawr cylchgrawn Yank

Tra bod Dougherty yn y Llynges Fasnachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudodd Monroe i fyw gyda'i mam-yng-nghyfraith, a dechreuodd weithio yn y Ffatri Arfau Awyrenradio. Peintiai awyrennau gyda phaent gwrth-dân ac archwiliau parasiwtiau. Yn ystod y cyfnod hwn, tynnodd un o ffotograffwyr y fyddin, David Conover lun ohoni ar gyfer erthygl ar gyfer cylchgrawn Yank. Annogodd hi i gysylltu â asiantaeth fodelu Blue Book. Arwyddodd gytundeb â'r asiantaeth a dechreuodd astudio gweithiau Jean Harlow a Lana Turner. Dywedwyd wrthi eu bod yn chwilio am fodelau gyda gwallt golau ac felly lliwiodd Marilyn ei gwallt tywyll.

Daeth Norma Jeane Dougherty yn un o fodelau mwyaf llwyddiannus Blue Book, gan ymddangos ar ddwsinau o gloriau cylchgronau. Ym 1946, daeth Monroe i sylw Ben Lyon, un o reolwyr 20th Century Fox, a drefnodd clyweliad ar ei chyfer. Cafodd Lyon ei blesio gyda'i hymroddiad a dywedodd, "Dyma Jean Harlow am yr eildro". Derbyniodd Monroe gytundeb chwe mis gyda chyflog cychwynnol o $125 yr wythnos.

Cytunwyd y byddai'n gorfod newid ei henw. Dywedodd Lyon wrthi ei bod yn ei atgoffa o'r actores Marilyn Miller a chymrodd enw ei mamgu, Monroe fel ei chyfenw.[13] Ymddangosodd yn Scudda Hoo! Scudda Hay! a Dangerous Years (y ddau ohonynt ym 1947), ond pan na adnewyddwyd ei chytundeb, dychwelodd i fyd modelu. Ceisiodd ddod o hyd i waith actio, a thra'r oedd yn ddiwaith, modelodd am luniau noeth.

Ym 1948, arwyddodd Monroe gytundeb chwe mis gyda Columbia Pictures, lle cyfarfu â prif hyfforddwraig drama'r cwmni, Natasha Lytess, a hyfforddodd Monroe i actio dros y blynyddoedd olynnol. Serennodd mewn sioe gerdd o'r enw Ladies of the Chorus, ond nid oedd y ffilm yn llwyddiant ac ni adnewyddwyd ei chytundeb. Ymddangosodd mewn rôl fechan yn ffilm y Brodyr Marx, Love Happy (1949) a chafodd argraff dda ar y cynhyrchwyr. O ganlyniad, fe'i danfonwyd i Efrog Newydd fel rhan o'r ymgyrch i hyrwyddo'r ffilm.

Yn sgîl llwyddiant Love Happy, cytunodd yr asiant Johnny Hyde i gynrychioli Monroe. Trefnodd glywediad iddi gyda John Huston, a roddodd rhan iddi yn y ddrama The Asphalt Jungle, fel meistres ifanc i droseddwr hŷn. Derbyniodd ei pherfformiad feirniadaethau clodwiw. Dywedodd yr ysgrifennwr a'r cyfarwyddwr Herman Mankiewicz mai diniweidrwydd Monroe oedd ei phrif apel a'i bod yn gwbl addas ar gyfer y rhan. Wedi llwyddiant Monroe yn y rôlau hyn, negydodd Hyde gytundeb saith mlynedd i Monroe gyda chwmni 20th Century Fox, ychydig cyn ei farwolaeth yn Rhagfyr 1950.

Cofrestrodd Monroe ar gwrs llenyddiaeth a gwerthfawrogi celf ym Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles, ac ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau bychan, gan serennu gyda pherfformwyr fel Mickey Rooney, Constance Bennett, Mehefin Allyson, Dick Powell a Claudette Colbert. Ym Mawrth 1951, ymddangosodd fel cyflwynwraig ar 23ain Seremoni Gwobrau'r Academi.

Datblygiad ei gyrfa

Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth 
Monroe ar glawr cylchgrawn Playboy

Ym Mawrth 1952, wynebai Monroe sgandal posib pan ymddangosodd un o'i lluniau noeth ar galendr. Dyfalodd y wasg ynglŷn â phwy oedd y model di-enw gan nodi ei bod yn edrych yn debyg iawn i Monroe. Wrth i'r stiwdio drafod sut i ymdrin â'r sefyllfa, awgrymodd Monroe y dylai gyfaddef ei bod wedi modeli'n noeth ond y dylid pwysleisio mai'r unig reswm y gwaneth hyn oedd er mwyn gallu talu ei rhent. Rhoddodd gyfweliad lle esboniodd y rhesymau pam y modelodd yn noeth, ac o ganlyniad cafodd rhyw faint o gydymdeimlad wrth y cyhoedd.

Ymddangosodd am y tro cyntaf ar glawr cylchgrawn Life yn Ebrill 1952, lle cafodd ei disgrifio fel "The Talk of Hollywood". Portreadodd yr hanesion am ei phlentyndod hi mewn ffordd gadarnhaol; dangosodd stori flaen rhifyn mis Mai 1952 o'r cylchgrawn True Experiences lun iachus o Monroe yn gwenu gyda'r pennawd "Do I look happy? I should — for I was a child nobody wanted. A lonely girl with a dream — who awakened to find that dream come true. I am Marilyn Monroe. Read my Cinderella story." Yn ystod y cyfnod hwn hefyd dechreuodd ganlyn y chwaraewr pêl-fas Joe DiMaggio. Argraffwyd llun o DiMaggio yn ymweld â Monroe yn stiwdios 20th Century Fox studio, mewn papurau newydd ledled yr Unol Daleithiau, a datblygodd ddiddordeb ym Monroe yn sgîl eu perthynas.

Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth 
Monroe gyda Keith Andes yn Clash by Night

Dros y misoedd canlynol, rhyddhawyd pedair ffilm yn serennu Monroe. Cafodd Monroe ei rhoi ar fenthyciad i Stiwdios RKO er mwyn ymddangos mewn rôl cefnogol yn Clash by Night, drama Barbara Stanwyck, a gyfarwyddwyd gan Fritz Lang.[27] Rhyddhawyd y ffilm ym Mehefin 1952, a bu'n llwyddiant ymysg cynulleidfaoedd. Dilynwyd y ffilm hon gan y comedi We're Not Married a'r ddrama Don't Bother to Knock ym mis Gorffennaf. RoeddWe're Not Married yn portreadu Monroe fel cystadleuydd mewn cystadleuaeth prydferthwch, a thra bod cylchgrawn Variety yn disgrifio'r ffilm fel "lightweight", dywedodd yr adolygwr eu bod wedi manteisio ar yr olygfa o Monroe mewn gwisg nofio, er fod elfen o ecsploitio yno. Yn Don't Bother to Knock, chwaraeoedd Monroe y brif ran, fel gwraig a oedd yn gofalu am blentyn ond sy'n bygwth ymosod ar y plentyn yn ei gofal. Derbyniodd y ffilm adolygiadau negyddol, er ei fod yn cynnwys peth o'i sgiliau actio mwyaf dramatig. Rhyddhawyd Monkey Business, comedi a gyfarwyddwyd gan Howard Hawks, ac a oedd yn serennu Cary Grant a Ginger Rogers ym Medi a bu'n lwyddiant masnachol er gwaetha'r adolygiadau negyddol.

Ystyriai Darryl F. Zanuck botensial Monroe yn rhywbeth a oedd yn werth ei ddatblygu, a rhoddodd ran iddi yn "Niagara", fel gwraig sy'n cynllwynio i lofruddio'i gŵr, a chwaraewyd gan Joseph Cotten. Tra'n ffilmio, sylwodd colurwr Monroe, Whitey Snyder, ar yr ofn llwyfan a oedd i aros gyda Monroe trwy gydol ei gyrfa, a chafodd ei neilltuo gan y cyfarwyddwr i gysuro a pherswadio Monroe wrth iddi baratoi ar gyfer ei golygfeydd.

Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth 
Monroe fel Rose yn Niagra

Soniodd nifer o feirniaid y ffilm am y golygfeydd o natur rywiol ac am yr olygfa sy'n dangos Monroe o'r tu ôl iddi, wrth iddi gerdded tuag at Niagara Falls. Ar ôl gweld y ffilm, dywed i Constance Bennett ddweud, "There's a broad with her future behind her." Dywedodd Whitey Snyder hefyd mai tra'n paratoi ar gyfer y ffilm hon y llwyddodd Monroe i greu'r ddelwedd ar gyfer ei hun "the look, and we used that look for several pictures in a row... the look was established".

Er bod y ffilm yn llwyddiant, a pherfformiad Monroe yn derbyn adolygiadau cadarnhaol, weithiau byddai ei hymddygiad mewn digwyddiadau i hyrwyddo'r ffilm yn denu sylwadau negyddol. Beirniadawyd ei hymddangosiad yn seremoni gwobrwyo Photoplay mewn ffrog lamé euraidd. Dyfynnwyd Joan Crawford yn ngholofn papur newydd Louella Parsons yn trafod "fwlgareiddiwch" Monroe a chan ddisgrifio'i hymddygiad fel ymddygiad cwbl anaddas "i actores ac i wraig." Cafodd ei beirniadau hefyd am wisgo ffrog gyda'r gyddflin lawr i'w bogail bron, pan oedd yng Ngorymdaith Miss America ym Medi 1952.[37] Ymddangosodd ffotograff o'r digwyddiad hwn ar glawr Playboy yn Rhagfyr 1953, gyda llun noeth ohoni (a dynnwyd ym 1949) y tu fewn y cylchgrawn.

Ei llwyddiant yn y brif ffrwd

Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth 
Monroe yn perfformio "Diamonds Are a Girl's Best Friend" yn Gentlemen Prefer Blondes (1953)

Ei ffilm nesaf oedd Gentlemen Prefer Blondes (1953) a gyfarwyddwyd gan Howard Hawks ac a oedd yn serennu Jane Russell. Chwaraeodd Monroe ran Lorelei Lee, merch sioe ariangar, ac roedd angen iddi ganu a dawnsio. Daeth Monroe a Russell yn ffrindiau, gyda Russell yn disgrifio Monroe fel "very shy and very sweet and far more intelligent than people gave her credit for". Yn ddiweddarach, dywedodd yr arferai Monroe ddangos ei hymroddiad drwy ymarfer ei symudiadau dawns bob nos wedi i'r criw adael, ond roedd yn aml yn hwyr ar y set ar gyfer ffilmio. Wrth sylweddoli fod Monroe yn aros yn ei hystafell newid oherwydd ofn perfformio, ac am fod Hawks yn mynd yn ddiamynedd gyda'r diffyg prydlondeb, dechreuodd Russell ei hebrwng i'r set.

Ar noson agoriadol y ffilm yn Los Angeles, gwasgodd Monroe a Rusell olion eu dwylo a'u traed i mewn i sment o flaen Theatr Tseiniaidd Grauman. Derbyniodd Monroe adolygiadau clodwiw a gwnaeth y ffilm dros ddwy cymaint ag y costiodd i'w chynhyrchu. Cysylltodd pobl ei pherfformiad o "Diamonds Are a Girl's Best Friend" gyda hi. Dynododd "Gentlemen Prefer Blondes" un o'r ffilmiau cynharaf lle cafodd Monroe ei gwisgo gan William Travilla, cynllunydd a fyddai'n darparu'r gwisgoedd ar ei chyfer mewn wyth o'i ffilmiau, gan gynnwys "Bus Stop, Don't Bother to Knock, How to Marry a Millionaire, River of No Return, There’s No Business Like Show Business, Monkey Business, a The Seven Year Itch.

Marilyn Monroe: Ei Theulu ai Bywyd Cynnar, Ei Gyrfa, Ffilmograffiaeth 
Marilyn Monroe a Jane Russell yn rhoi eu llofnodion ac olion eu traed a'u dwylo yn Theatr Tsieiniaidd Grauman, 1953

Roedd How to Marry a Millionaire yn gomedi am dair model a oedd yn cynllwynio i ddenu gŵr cefnog, lle gweithiodd Monroe gyda Betty Grable a Lauren Bacall. Cawsant eu cyfarwyddo gan Jean Negulesco.[43] Dywedodd y sgriptiwr a'r cynhyrchydd Nunnally Johnson mai dyma oedd y ffilm gyntaf lle'r oedd cynulleidfaoedd yn "hoffi Monroe am hi ei hun [a'i bod] wedi dod i gaslgliad craff iawn. Dywedodd mai dyma oedd yr unig ffilm yr oedd wedi bod ynddo lle'r oedd ganddi rhithyn o wyleidd-dra... am ei phrydferthwch ei hun.

Yn ystod y cyfnod hwn, darluniodd y ffilmiau Monroe fel merch gwallt golau twp, a chyfrannodd hyn at ei phoblogrwydd. Ym 1953 a 1954, cafodd ei rhestru fel un o'r ser a oedd yn gwneud fwyaf o arian yn seiliedig ar yr arian a wnaed mewn sinemau dros y flwyddyn flaenorol. Ym 1953 a 1954, rhestrwyd Monroe yn Arolwg Quigley o'r Deg Seren a wnaeth Fwyaf o Arain" yn flynyddol, a oedd yn caslgu ynghyd pleidleisiau wrth arddangoswyr ffilm yr Unol Daleithiau am y ser a oedd wedi gwneud fwyaf o arian yn eu sinemau dros y flwyddyn flaenorol.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, trafododd Monroe ei huchelgais ym myd actio, gan ddweud wrth y New York Times ei bod eisiau "tyfu a datblygu a chwarae rhannau mwy difrifol. Mae fy hyfforddwraig drama, Natasha Lytess, yn dweud wrth bawb fod gennyf enaid arbennig, ond hyd yn hyn, nid oes diddordeb gan unrhyw un ynddo." Gwelodd bosibilrwydd yn ffilm newydd 20th Century Fox, The Egyptian, ond cafodd ei gwrthod gan Darryl F. Zanuck a wrthododd rhoi clyweliad iddi.

Yn hytrach, cafodd ran yn y ffilm y gorllewin gwyllt, River of No Return, gyda Robert Mitchum. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Otto Preminger a oedd yn casau dibynniaeth Monroe ar Natasha Lytess, a oedd yn ei hyfforddi a mynegi ei barn ar ddiwedd pob golygfa. Yn y pen draw, gwrthododd Monroe siarad â Preminger, ac roedd angen i Mitchum gyfathrebu rhyngddynt. Ar y cynnyrch gorffenedig, dywedodd Monroe, "Credaf fy mod yn haeddu cytundeb gwell na ffilm gowboi categori Z lle'r ystyrir yr actio'n eilradd i'r golygfeydd a'r broses Cinemascope.

Ffilmograffiaeth

Blwyddyn Enw'r ffilm Rôl Cyfarwyddwr
1947 The Shocking Miss Pilgrim Gweithredydd teleffon (di-gredyd) George Seaton
1947 Dangerous Years Evie Arthur Pierson
1948 You Were Meant for Me Flapper (di-gredyd) Lloyd Bacon
1948 Scudda Hoo! Scudda Hay! Betty (di-gredyd) Hugh Herbert
1948 Green Grass of Wyoming Dawnswraig yn y sgwar (di-gredyd) Louis King
1948 Ladies of the Chorus Peggy Martin Phil Karfson
1949 Love Happy Grunion's Client (di-gredyd) David Miller
1950 A Ticket to Tomahawk Clara (di-gredyd) Richard Sale
1950 Right Cross Dusky Ledoux (di-gredyd) John Sturges
1950 The Fireball Polly Tay Garnett
1950 The Asphalt Jungle Angela Phinlay John Huston
1950 All About Eve Miss Claudia Caswell Joseph L. Mankiewicz
1951 Love Nest Roberta Stevens Joseph M. Newman
1951 Let's Make It Legal Joyce Mannering Richard Sale
1951 Home Town Story Iris Martin Arthur Pierson
1951 As Young as You Feel Harriet Harman Jones
1952 O. Henry's Full House Putain Henry Koster
1952 Monkey Business Lois Laurel Howard Hawks
1952 Clash by Night Peggy Fritz Lang
1952 We're Not Married! Anabel Norris Edmund Goulding
1952 Don't Bother to Knock Nell Forbes Roy Baker
1953 Niagara Rose Loomis Henry Hathaway
1953 Gentlemen Prefer Blondes Lorelei Lee Howard Hawks
1953 How to Marry a Millionaire Pola Debevoise Jean Negulesco
1954 River of No Return Kay Weston Otto Preminger
1954 There's No Business Like Show Business Vicky Walter Lang
1955 The Seven Year Itch The Girl Billy Wilder
1956 Bus Stop Cherie Joshua Logan
1957 The Prince and the Showgirl Elsie Marina Laurence Olivier
1959 Some Like It Hot Sugar Kane Kowalczyk Billy Wilder
1960 Let's Make Love Amanda Dell George Cukor
1961 The Misfits Roslyn Taber John Huston
1962 Something's Got To Give (Heb ei Gorffen) Ellen Wagstaff Arden George Cukor

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Marilyn Monroe Ei Theulu ai Bywyd CynnarMarilyn Monroe Ei GyrfaMarilyn Monroe FfilmograffiaethMarilyn Monroe CyfeiriadauMarilyn Monroe Dolenni allanolMarilyn Monroe1 Mehefin192619625 AwstActoresCantoresLos AngelesModelUnol Daleithiau AmericaYr Unol Daleithiau

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CaernarfonGalwedigaethLoganton, PennsylvaniaThe Salton SeaRowan AtkinsonApat Dapat, Dapat ApatDawid JungSacsoneg IselThe Heart of a Race ToutYswiriantGramadeg Lingua Franca NovaDydd Iau DyrchafaelGrandma's BoyLlyngesAndrew ScottThe Dude WranglerThe Road Not TakenGoogleLlyn TegidAlhed LarsenGweriniaeth IwerddonCymbriegY Deyrnas UnedigRhestr o luniau gan John ThomasClustogLinczY Deuddeg ApostolBydysawd (seryddiaeth)CredydTywysogion a Brenhinoedd CymruUndeb Chwarelwyr Gogledd CymruAlbanegComisiynydd y GymraegCastro (gwahaniaethu)RaajneetiBigger Than LifeDinas Efrog NewyddCeridwenParthaOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandISO 4217Anna VlasovaAfon TeifiTywysog CymruVolkswagen Transporter19eg ganrifTywyddPeiriant WaybackCystadleuaeth Cân Eurovision 2021Cronfa CraiForbesTafodAberdaugleddauPurani KabarBrân bigfainBreuddwyd Macsen WledigNic ParryMarie AntoinetteIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanEginegFisigothiaidThe Commitments (ffilm)CaersallogAlldafliadErnst August, brenin HannoverSefydliad WicimediaUnol Daleithiau AmericaTsieineeg🡆 More