Berf

Gair sy'n mynegi gweithred neu fod neu gyflwr yw berf.

Diffiniad naïf fyddai mai gair "gwneud (rhywbeth)" yw berf. Daw'r gair Cymraeg ei hun o'r gair Lladin verbum ('Y Gair').

Berf
Enghraifft o'r canlynolpart of speech Edit this on Wikidata
Mathgair, content word Edit this on Wikidata
Rhan oword order Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhediad berfau

Gall ffurf berf newid er mwyn dangos person, rhif, amser, a amser yn y Gymraeg. Mewn ieithoedd eraill, gall ddangos priodweddau eraill megis cenedl. Er enghraifft, dyma pob ffurf posib y berf "caru" mewn Cymraeg ffurfiol gyfoes:

Modd Mynegol

    Unigol Lluosog
    Presennol Person 1af caraf carwn
    2il berson ceri cerwch
    3ydd person câr carant
    Amhersonol cerir
    Amherffaith Person 1af carwn carem
    2il berson carit carech
    3ydd person carai carent
    Amhersonol cerid
    Gorffennol Person 1af cerais carasom
    2il berson ceraist carasoch
    3ydd person carodd carasant
    Amhersonol carwyd
    Gorberffaith Person 1af caraswn carasem
    2il berson carasit carasech
    3ydd person carasai carasent
    Amhersonol caresid

Modd Dibynnol

    Unigol Lluosog
    Presennol Person 1af carwyf carom
    2il berson cerych caroch
    3ydd person caro caront
    Amhersonol carer
    Amherffaith Person 1af carwn carem
    2il berson carit carech
    3ydd person carai carent
    Amhersonol cerid

Modd Gorchmynol

    Unigol Lluosog
    Presennol Person 1af carwn
    2il berson câr cerwch
    3ydd person cared carant
    Amhersonol carer

Berfenwau

Fel rheol, nid yw berfenwau fel bwyta yn cael eu cyfri fel berfau yn y Gymraeg, ond mae eu swyddogaeth yn debyg i ferfau annherfynol a geir mewn llawer o ieithoedd.

Berfau cryno a berfau cwmpasog

Mae berf seml/gryno/rhediadol fel un o'r ffurfiu o canu uchod, yn dangos person, amser ac ati yn ffurf y prif ferf. Ond gellir defnyddio berf arall fel bod i wneud y gwaith yma, gan adael y prif ferf fel berfenw yn unig. Gelwir hyn yn ferf gwmpasog, gan ei fod yn effeithio ar rannau arall o'r frawddeg. E.e. yn lle o "Caraf ferch" (berf cryno), gallwn ddweud "Rydw i'n caru merch" (berf gwmpasog).

Falens

Un ffordd o wahaniaethu rhwng ferfau yw falens; cyfanswm goddrychau a gwrthrychau'r ferf.

Falens 0

Mae'r math yma o ferf yn disgrifio rhywbeth sy'n digwydd (heb nodi pwy sy'n ei wneud nag i bwy). Enghraifft yw berf amhersonol fel "canwyd cân" yn y Gymraeg.

Falens 1

Gelwir berf sydd â goddrych, ond heb wrthrych yn ferf gyflawn. Er enghraifft, "cysgodd Dafydd".

Falens 2

Mae gan ferf anghyflawn wrthrych yn ogystal â goddrych, er enghraifft, "Bwytodd ef fwyd".

Falens 3

Goddrych a dau wrthrych sydd gan ferf o'r fath fel arfer, e.e. "Rhoddod Siôn yr anrheg i Siân".

Cyfeiriadau a nodiadau

Berf 
Chwiliwch am berf
yn Wiciadur.

Tags:

Berf Rhediad berfauBerf enwauBerf au cryno a berfau cwmpasogBerf FalensBerf Cyfeiriadau a nodiadauBerfCymraegGairLladin

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gogledd Swydd EfrogBermudaDuel On The Mississippi20gAthrawiaeth Brezhnev1965JapanMis Hanes Pobl DduonVurğun OcağıEginegAberjaberPencampwriaeth Pêl-droed EwropKemi BadenochCreampieY CremlinDemolition ManDe AffricaYr Undeb SofietaiddBad Golf My WayFabiola de Mora y AragónDadfeilio ymbelydrolMcDonald'sFfilm llawn cyffroPost BrenhinolAlldafliad benywIncwm sylfaenol cyffredinolFaytonçuPencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008Ex gratiaBloc PartyDavid Lloyd GeorgeKinorejissor Arif Babayev1960Y we fyd-eangTalaith NovaraTîm Pêl-droed Cenedlaethol SwedenPedwar mesur ar hugainBernie NolanA Beautiful PlanetMwcwsBarbara BushGwladwriaeth IslamaiddYnysoedd Gogledd Mariana6 GorffennafGwainLibiaThe ApologyAlun Wyn JonesCysawd yr HaulDafydd IwanDove Vai Tutta Nuda?Eva StrautmannGalileo GalileiY Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol1475Peredur ap GwyneddSpice Girls1533🡆 More