Iaith Semitaidd yw'r Arabeg (العَرَبِيةُ), gan ddeillio o Arabeg Glasurol yn y 6g.
Fel ieithoedd Semitaidd eraill (heblaw Malteg), ysgrifennir Arabeg o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.
Arabeg
العربية/عربي/عربىal-ʻarabiyyah/ʻarabī
al-ʿArabiyyah yn Arabeg ysgrifenedig (sgript Naskh)
Ysgrifennir yr wyddor Arabeg o'r dde i'r chwith. Rhennir y llythrennau yn ddau fath: y rhai sydd yn cysylltu ar y naill ochr a'r llall, a'r rhai sydd yn cysylltu â'r llythyren flaenorol yn unig. Yn y dosbarth cyntaf mae ffurf flaen, canol, olaf, ac annibynnol i bob llythyren; yn yr ail ddosbarth mae ffurf olaf ac annibynnol yn unig.
Ffonoleg
Mae ynganiad Arabeg yn amrywio o wlad i wlad ac o ardal i ardal, yn enwedig o ran llafariaid.
Cytseiniaid
Dyma'r cytseiniaid a ddefnyddir mewn Arabeg safonol, gan ddefnyddio'r Gwyddor Seinegol Ryngwladol
Cytseiniad Arabeg Safonol Modern
Gwefusol
Deintiol
Llafnol-Deintiol
Ôl-orfannol/ Taflodol
Felar
Tafodigol
Argegol
Glotol
di-bwyslais
pwysleisiol
Trwynol
m
n
Ffrwydrol
Di-lais
t̪
tˤ
k
q
ʔ
Lleisiol
b
d̪
dˤ
d͡ʒ
Ffrithiol
Di-lais
f
θ
s̪
sˤ
ʃ
x ~ χ
ħ
Lleisiol
ð
z̪
ðˤ
ɣ ~ ʁ
ʕ
ɦ
Rhotig
r
Dynesol
l
(ɫ)
j
w
Gramadeg
Trefn arferol y frawddeg Arabeg yw VSO (Berf - Goddrych - Gwrthrych), fel yn y Gymraeg.
Mae llawer o eiriau Arabeg a ieithoedd semitaidd eraill wedi eu ffurfio ar sail gwreiddyn semitaidd, tair cytsain fel arfer. Gall un gwraidd greu nifer fawr o eiriau cysylltiedig, er enghraifft gyda'r gwraidd k - t - b:
كَتَبْتُ katabtu 'Ysgrifenais'
كَتَّبْتُ kattabtu 'Gofynais i rywbeth gael ei ysgrifennu'
Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.
Arabeg Hadhramaut (oddeutu 8 miliwn o siaradwyr) yn Hadhramaut ac ar wasgar.
Arabeg Iemen (oddeutu 15 miliwn o siaradwyr yn Iemen a de Sawdi Arabia). Mae'n debyg i Arabeg y Gwlff.
Arabeb Najd neu Bedawi (10 miliwn o siaradwyr). Yn ogystal â'r siaradwyr yn Sawdi Arabia, dyma iaith mwyafrif dinasyddion Qatar
Arabeg Hijaz (6 miliwn o siaradwyr), gorllewin Sawdi Arabia
Arabeg y Sahara, a siaradir yn rhannau o Algeria, Niger a Mali
Arabeg Baharna (600,000 o siaradwyr), ymysg y Shïa yn Bahrain a Qatif, a rhywfaint yn Oman. Mae'n wahanol i Arabeg y Gwlff mewn sawl ffordd.
Iddew-Arabeg, neu Qәltu. Wrth i Iddewon mudo i Israel, lleihaodd defnydd Iddew-Arabeg rhannau eraill o'r byd Arabeg ei iaith, ac mae bellach dan fygythiad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arabeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.