Ar 28 Chwefror profwyd y person cyntaf yng Nghymru yn bositif o'r haint COVID-19 a elwir weithiau'n 'Ofid Mawr' ac ar 16 Mawrth 2020, bu farw'r person cyntaf yng Nghymru o'r haint.
Enw'r firws sy'n achosi'r haint hwn yw SARS-CoV-2, sef math o Goronafeirws RNA un-edefyn, ac fe'i gwelwyd am y tro cyntaf yn Wuhan, Tsieina yn Rhagfyr 2019.
Dyma grynodeb o'r ystadegau a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y misoedd cyntaf daeth y niferoedd o brofion/achosion yn bennaf o gleifion a gymerwyd i'r ysbyty, neu weithwyr iechyd a gafodd brawf. Ers 18 Mai 2020 caiff unrhyw berson dros 5 oed ofyn am brawf. Mae'r nifer marwolaethau yn cynnwys achosion a adroddwyd i ICC mewn ysbyty neu gartref gofal lle cafwyd prawf positif mewn labordy a lle mae meddyg yn credu mai COVID-19 wnaeth achosi'r farwolaeth. Ffynhonnell y ffigyrau yma yw gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ystadegau am farwolaethau a gofrestrwyd yn y DU ac mae'n rhoi cyfanswm o'r holl farwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws.
Ni fydd diweddaradau ystadegau cyson ar ôl 25 Mai 2022
Diweddarwyd diwethaf: 25 Mai 2022 | Niferoedd Cymru |
---|---|
Nifer yr unigolion a brofwyd: | 5,069,486 |
Nifer yr achosion: | 874,425 |
Nifer y brechiadau (dos cyntaf / ail ddos / brechiad atgyfnerthol): | 2,559,001 / 2,418,070 / 1,980,140 |
Nifer y marwolaethau (ffigyrau dyddiol ICC): | 7,473 |
Nifer y marwolaethau (ONS): | 9,051 (hyd at 3 Rhagfyr 2021) |
Mae'r graffiau yma yn defnyddio ystadegau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle mae'r ffigyrau yn cynnwys achosion a marwolaethau a adroddwyd ar y diwrnod hynny, a fydd efallai yn cynnwys sawl achos (prawf positif) neu farwolaeth a ddigwyddodd sawl diwrnod ynghynt. Fodd bynnag mae'r graff marwolaethau yn ôl dyddiad a ddigwyddodd, nid pryd ei adroddwyd.
Ffynhonnell: coronavirus.data.gov.uk.
Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru. Dyma'r niferoedd o farwolaethau fesul bwrdd:
Mae'r graff isod yn dangos y marwolaethau ychwanegol (Saesneg: excess deaths) yng Nghymru yn 2020/2021 uwchben y cyfartaledd dros y 5 mlynedd cynt. Defnyddir hyn fel ystadegyn awdurdodol i gymharu effaith y pandemig ar boblogaeth unrhyw wlad.
Y siroedd gyda lleiaf o achosion: | Y siroedd gyda'r mwyaf o achosion: |
Bwrdd Iechyd | Awdurdod Lleol | Achosion | Cyfanswm yr achosion |
---|---|---|---|
Aneurin Bevan | Blaenau Gwent | 5,919 | 39,235 |
Caerffili | 12,674 | ||
Casnewydd | 10,587 | ||
Sir Fynwy | 3,943 | ||
Torfaen | 6,144 | ||
Betsi Cadwaladr | Conwy | 3,310 | 31,544 |
Gwynedd | 2,705 | ||
Sir Ddinbych | 4,001 | ||
Sir y Fflint | 8,811 | ||
Wrecsam | 10,901 | ||
Ynys Môn | 1,816 | ||
Cardydd a'r Fro | Bro Morgannwg | 7,033 | 31,590 |
Caerdydd | 24,557 | ||
Cwm Taf Morgannwg | Merthyr Tudful | 6,316 | 39,267 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 12,254 | ||
Rhondda Cynon Taf | 20,665 | ||
Hywel Dda | Ceredigion | 1,680 | 15,039 |
Sir Benfro | 3,176 | ||
Sir Gaerfyrddin | 10,183 | ||
Powys | Powys | 3,723 | 3,723 |
Bae Abertawe | Abertawe | 16,485 | 27,551 |
Castell-nedd Port Talbot | 11,066 | ||
Lleoliad anhysbys | 1,783 | ||
Preswylwyr tu allan i Gymru | 9,029 | ||
Cyfanswm Cymru | 189,732 | ||
Cyfanswm | 198,761 |
Gwlad | Nifer y marwolaethau | Ffynhonnell | Poblogaeth (miliwn) | Nifer allan o 100,000 a fu farw |
---|---|---|---|---|
Gwlad yr Iâ | 29 | 0.4 | 7.3 | |
Georgia | 3,343 | 3.7 | 90.4 | |
Seland Newydd | 25 | 5.0 | 0.5 | |
Norwy | 592 | 5.3 | 11.2 | |
Slofenia | 3,705 | 2.0 | 185.3 | |
Awstria | 8,195 | 8.9 | 92.1 | |
Gweriniaeth Iwerddon | 3,931 | 4.8 | 81.9 | |
Yr Alban | 6,711 | (PHS) | 5.5 | 122.0 |
Cymru | 5,106 | 3.2 | 159.6 | |
Lloegr | 103,106 | 56.3 | 183.1 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.