Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro yw Gwyn Llewelyn (ganwyd 6 Mawrth 1942).
Mae'n adnabyddus am ei adroddiadau ar raglen newyddion Y Dydd ac am fod y newyddiadurwr teledu cyntaf yn Nhrychineb Aberfan. Ef hefyd oedd yn cyflwyno'r gyfres gylchgrawn Hel Straeon.
Gwyn Llewelyn | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1942 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, darlledwr |
Ganwyd Gwyn ym Mangor a fe'i magwyd yn Ty'n y Gongl, Ynys Môn. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Ty'n y Gongl ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Yn 16 oed ymunodd a'r North Wales Chronicle a'r Cloriannydd fel cyw-newyddiadurwr cyn symud i Gaerdydd yn 1962 i fod yn Is-Olygydd ar y Western Mail, y person ieuengaf yn hanes y cwmni i ddal swydd o'r fath.
Yn 1962 ymunodd â chwmni newydd Teledu Cymru fel gohebydd pan oedd y tîm yn cynnwys John Roberts Williams a T. Glynne Davies. Yn dilyn methiant y fenter ar ddiwedd 1963, ailymunodd â'r Western Mail fel gohebydd cyffredinol. Yn 1964 ymunodd â chwmni TWW fel Gohebydd Crwydrol ar raglen Y Dydd. Yn 1966 ef oedd y newyddiadurwr teledu cyntaf i gyrraedd Aberfan, awr wedi'r drychineb. Daeth yn brif gyflwynydd Y Dydd yn 1968 a bu yn y swydd tan 1975.
Yn 1976 ymunodd â'r BBC a symudodd i Fangor i gyflwyno Bore Da ac ef hefyd oedd darllenydd newyddion cyntaf Radio Cymru.
Yn 1979 derbyniodd gynnig i fod yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Heddiw gan gadw ei ddyletswyddau ar O'r Newydd. Yn 1982 daeth yn un o gyflwynwyr sefydlog Newyddion Saith ar sianel newydd S4C ac yn 1986 derbyniodd wahoddiad i fod yn brif gyflwynydd Hel Straeon ac ymuno â thîm a oedd yn cynnwys Lyn Ebenezer a Catrin Beard.
Bu'n Bennaeth Uned Gyfathrebu Cyngor Ynys Môn cyn dod yn ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7. Fe ymddeolodd o'r rhaglen yn 2007.
Mae'n briod â Luned a bu'n byw ym Mhorthaethwy am flynyddoedd cyn symud i Gaernarfon. Mae'n Dad i Sion, Siwan a Shari Llewelyn
Ysgrifennodd ddau lyfr o hanesion Hel Straeon, teithlyfr Gwyn a'i Fyd yn seiliedig ar y gyfres deledu a'r nofelau Pry'r Gannwyll ac Yr Ias yng Ngruddiau'r Rhosyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyn Llewelyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.