Great Reset

Y Great Reset (bathiad: yr Ailosod Enfawr) oedd enw 50fed cyfarfod blynyddol Fforwm Economaidd y Byd (WEF), a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020.

Mae'r enw'n parhau i gael ei ddefnyddio am yr ysgol o feddwl a ddaeth o'r fforwm. Daeth arweinwyr busnes a gwleidyddon proffil uchel ynghyd, ac a gynullwyd gan Charles, Tywysog Lloegr a’r WEF, gyda’r thema o newid cymdeithas a’r economi yn dilyn pandemig COVID-19. Mae Fforwm Economaidd y Byd yn awgrymu’n gyffredinol mai’r ffordd orau o reoli byd sydd wedi’i globaleiddio yw trwy glymblaid hunan-ddethol o gorfforaethau rhyngwladol, llywodraethau a sefydliadau cymdeithas sifil (CSOs).

Great Reset
Great Reset
Enghraifft o'r canlynolcynnig a fwriedir, prosiect Edit this on Wikidata
CrëwrFforwm Economaidd y Byd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.weforum.org/great-reset/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Disgrifiodd prif swyddog gweithredol WEF, Klaus Schwab, dair elfen graidd i'r Ailosod Mawr: mae'r cyntaf yn ymwneud â chreu amodau ar gyfer "economi rhanddeiliaid" (stakeholder economy); mae'r ail gydran yn cynnwys adeiladu mewn ffordd fwy "gwydn, teg a chynaliadwy" - yn seiliedig ar fetrigau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) a fyddai'n ymgorffori mwy o brosiectau seilwaith cyhoeddus gwyrdd; y drydedd gydran yw "harneisio'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol" er lles y cyhoedd. Yn ei phrif araith yn agor y deialogau, rhestrodd cyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Kristalina Georgieva, dair agwedd allweddol ar yr ymateb cynaliadwy: twf gwyrdd, twf craffach, a thwf tecach.

Yn nigwyddiad lansio'r Ailosod Mawr, rhestrodd y Tywysog Charles feysydd allweddol ar gyfer gweithredu, yn debyg i'r rhai a restrir yn ei Fenter Marchnadoedd Cynaliadwy, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2020. Roedd y rhain yn cynnwys ailfywiogi gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi, symud tuag at drawsnewidiadau sero net yn fyd-eang, cyflwyno prisio carbon, ailddyfeisio strwythurau cymell hirsefydlog, ail-gydbwyso buddsoddiadau i gynnwys mwy o fuddsoddiadau gwyrdd (ond nid pob un), ac annog prosiectau seilwaith cyhoeddus gwyrdd. (Gweler golchi gwyrdd).

Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddwyd thema'r 50fed Fforwm Economaidd y Byd, Ionawr 2021 fel “Yr Ailosod Enfawr” (The Great Reset), gan gysylltu arweinwyr byd-eang personol ac ar-lein yn Davos, y Swistir â rhwydwaith aml-randdeiliaid mewn 400 o ddinasoedd ledled y byd. Yr Ailosod Enfawr hefyd oedd prif thema uwchgynhadledd WEF yn Lucerne ym mis Mai 2021, a ohiriwyd tan 2022.

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn awgrymu’n gyffredinol mai’r ffordd orau o reoli byd sydd wedi’i globaleiddio yw trwy glymblaid hunan-ddethol o gorfforaethau rhyngwladol, llywodraethau a sefydliadau sifil (CSOs). Mae'n gweld cyfnodau o ansefydlogrwydd byd-eang - fel yr argyfwng ariannol a'r pandemig COVID-19 - fel cyfleon i wthio ei rhaglen ei hun. Mae rhai beirniaid felly'n gweld yr Ailosod Enfawr fel parhad o strategaeth Fforwm Economaidd y Byd o ganolbwyntio ar bynciau ble ceir actifyddion megis diogelu'r amgylchedd ac entrepreneuriaeth gymdeithasol i guddio nodau plwocrataidd gwirioneddol y sefydliad. Mae felly'n annog creu byd plwocrataidd, hyn byd sy'n cael ei reoli gan llond dwrn o bobl o gyfoeth neu incwm enfawr.

Yn ôl The New York Times, BBC News, The Guardian, Le Devoir a Radio Canada, tafl;wyd llwch i lygaid pobl, ac ymledodd damcaniaeth gydgynllwyniol gan grwpiau asgell dde eithafol Americanaidd sy'n gysylltiedig â QAnon ar ddechrau'r fforwm Ailosod Enfawr. Cynyddodd y sylw wrth i arweinwyr fel Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden a Phrif Weinidog Canada Justin Trudeau ymgorffori syniadau'r Gynhadledd drwy ddefnyddio geiriau a syniadau am “ailosod” yn eu hareithiau.

Cydrannau allweddol

Erbyn canol mis Ebrill 2020, yn erbyn cefndir y pandemig COVID-19, dirwasgiad COVID-19 , rhyfel prisiau olew Rwsia-Saudi Arabia 2020 a'r “cwymp ym mhrisiau olew” o ganlyniad, disgrifiodd cyn- Lywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney newidiadau sylfaenol posibl mewn erthygl yn The Economist. Dywedodd Carney y bydd "stakeholder capitalism", mewn byd ôl-COVID, ” yn cael ei brofi gan y bydd “cwmnïau’n cael eu barnu yn ôl ‘yr hyn a wnaethant yn ystod y rhyfel a'r pandemig,’ sut y gwnaethant drin eu gweithwyr, eu cyflenwyr a’u cwsmeriaid, pwy oedd yn rhannu a phwy oedd yn safio.” Bydd y "gagendor rhwng yr hyn y mae'r farchnad yn ei werthfawrogi a'r hyn y mae pobl yn ei werthfawrogi" yn cau. Mewn byd ôl-COVID, mae'n rhesymol disgwyl y bydd mwy o bobl eisiau gwelliannau mewn rheoli risg, mewn rhwydi diogelwch cymdeithasol a meddygol, ac am roi mwy o sylw i arbenigwyr gwyddonol. Bydd yr hierarchaeth werthoedd newydd hon yn galw am ailosod y ffordd yr ydym yn delio â newid hinsawdd, sydd, fel y pandemig, yn ffenomen fyd-eang. Ni all unrhyw un “hunan-ynysu” rhag newid hinsawdd felly mae angen i ni i gyd “weithredu ymlaen llaw ac mewn undod”. Yn ei Ddarlithoedd Reith ar y BBC yn 2020, datblygodd Carney ei thema o hierarchaethau gwerth yn ymwneud â thair argyfwng - credyd, COVID a'r hinsawdd.

Yn ôl erthygl WEF ar 15 Mai, 2020, mae COVID-19 yn cynnig cyfle i “ailosod ac ail-lunio” y byd mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn well â Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig (SDG) ee newid hinsawdd, anghydraddoldeb a thlodi.

Mae hyn yn cynnwys ailosod (neu aildrefnu) marchnadoedd llafur, wrth i fwy o bobl weithio o bell gan gyflymu'r broses o "ddyfodol gwaith". Bydd yr ailosod yn datblygu gwaith sydd eisoes wedi dechrau i baratoi ar gyfer y trawsnewid i'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol trwy uwchsgilio ac ailsgilio gweithwyr. Pryder arall ôl-COVID a godwyd gan y WEF yw diogelwch bwyd gan gynnwys y “risg o darfu ar gadwyni cyflenwi bwyd”, a’r angen am “gydlynu polisi byd-eang” i atal “amddiffyn bwyd rhag dod yn normal newydd ôl-bandemig.”

Yn ei phrif anerchiad ar 3 Mehefin, 2020 yn agor y fforwm dywedodd Kristalina Georgieva, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) y bu “chwistrelliad enfawr o gyllid ariannol yn ysgogiad i helpu gwledydd i ddelio â’r argyfwng hwn” a’i bod yn “holl bwysig bod y twf hwn yn arwain at fyd gwyrddach, callach a thecach yn y dyfodol”. Rhestrodd Georgieva dair agwedd ar yr Ailosod Mawr; twf gwyrdd, twf doethach a thwf tecach. Gallai buddsoddiadau'r llywodraeth a chymhellion y llywodraeth i fuddsoddwyr preifat "gefnogi twf carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd" fel "plannu mangrofau, adfer tir, ailgoedwigo neu inswleiddio adeiladau." Gyda phrisiau olew yn isel, roedd yr amseriad yn iawn i ddileu cymorthdaliadau tanwydd ffosil a chyflwyno prisiau carbon i gymell buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae pandemig COVID-19 yn gyfle i lunio adferiad economaidd a chyfeiriad cysylltiadau byd-eang, economïau a blaenoriaethau yn y dyfodol.

Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol

Defnyddiodd Klaus Schwab yr ymadrodd "Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol" mewn erthygl yn 2015 a gyhoeddwyd gan Materion Tramor, ac yn 2016, thema cyfarfod blynyddol Fforwm Economaidd y Byd yn Davos-Klosters, y Swistir, oedd "Meistroli'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol". Yn ei erthygl 2015, dywedodd Schwab fod y chwyldro diwydiannol cyntaf yn cael ei bweru gan "dŵr a stêm" i "fecaneiddio cynhyrchu". Trwy bŵer trydanol, cyflwynodd yr ail chwyldro diwydiannol gynhyrchu màs. Fe wnaeth electroneg a thechnolegau gwybodaeth awtomeiddio'r broses gynhyrchu yn y trydydd chwyldro diwydiannol. Yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol mae'r llinellau rhwng "sfferau corfforol, digidol a biolegol" yn ffiniau llwyd iawn ac mae'r chwyldro cyfredol hwn, a ddechreuodd gyda'r chwyldro digidol yng nghanol y 1990au, yn "nodweddu cyfuniad o dechnolegau." Roedd y cyfuniad hwn o dechnolegau'n cynnwys "meysydd megis deallusrwydd artiffisial, roboteg, Rhyngrwyd Pethau, cerbydau ymreolaethol, argraffu 3-D, nanodechnoleg, biotechnoleg, gwyddor deunyddiau, storio ynni a chyfrifiadura cwantwm."

Ychydig cyn cyfarfod blynyddol WEF 2016 o’r Cynghorau Dyfodol Byd-eang, uwchlwythodd Ida Auken—AS o Ddenmarc, a oedd yn arweinydd byd-eang ifanc ac yn aelod o’r Cyngor ar Ddinasoedd a Threfoli, bost blog a gyhoeddwyd yn ddiweddarach gan Forbes yn dychmygu sut gallai technoleg wella ein bywydau erbyn 2030 pe bai nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDG) yn cael eu gwireddu trwy'r cyfuniad hwn o dechnolegau. Dychmygodd Auken sut y byddai cyfathrebu digidol, yna cludiant, llety a bwyd, yn arwain at fwy o fynediad a llai o gostau. Gan fod popeth am ddim, gan gynnwys ynni glân, nid oedd angen bod yn berchen ar gynhyrchion neu eiddo tiriog (adeiladau a thir). Yn ei senario ddychmygol, cafodd llawer o argyfyngau'r 21g gynnar - "clefydau ein ffordd o fyw, newid hinsawdd, yr argyfwng ffoaduriaid, diraddio amgylcheddol, dinasoedd llawn tagfeydd traffig, llygredd dŵr, llygredd aer, aflonyddwch cymdeithasol a diweithdra" - a sut i'w datrys trwy dechnolegau newydd. Mae'r erthygl wedi'i beirniadu fel un sy'n portreadu iwtopia am bris colli preifatrwydd a rhyddid yr unigolyn. Mewn ymateb, dywedodd Auken mai'r bwriad oedd "dechrau trafodaeth am rai o fanteision ac anfanteision y datblygiadau technolegol presennol."

Mae arweinwyr gwleidyddol fel Prif Weinidog Canada Justin Trudeau ac Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden wedi cymeradwyo’r syniad o “adeiladu’n ôl yn well”, yn ogystal â Phrif Weinidog Lloegr, Boris Johnson.

Cyhoeddodd cylchgrawn Time gyfres o’r enw “The Great Reset: How to Build a Better World Post-COVID-19”, a oedd yn cynnwys casgliad o erthyglau, colofnau, fideos siarad a chyfweliadau.

Beirniadaeth

Mae rhai beirniaid felly yn ei weld fel parhad gan strategaeth Fforwm Economaidd y Byd i ganolbwyntio ar bynciau actifyddion megis diogelu'r amgylchedd ac entrepreneuriaeth gymdeithasol i guddio nodau plwocrataidd gwirioneddol sefydliadau a chyfoethogiuon mawr y byd.

Yn ei adolygiad o lyfr 2020 a gyd-awdurwyd gan Schwab a Malleret - a’r agenda'r Great Reset yn gyffredinol - dywedodd Ben Sixsmith, un o gyfranwyr The Spectator, fod yr Ailosod Enfawr yn set o “syniadau drwg… a fabwysiadwyd yn rhyngwladol gan rhai o’r bobl gyfoethocaf a mwyaf pwerus yn y byd.” Disgrifiodd Sixsmith adrannau o'r llyfr fel rhai "o ddifrif", digalon, diymhongar a di-flewyn ar dafod.

Uwchgynhadledd WEF 2021

Yr Ailosod Mawr oedd prif thema uwchgynhadledd WEF 2021, ond cafodd ei ohirio tan 2022.

Theori cynllwyn

Gall y term “Ailosod Enfawr” hefyd gyfeirio at theori cynllwyn, a enwyd ar ôl y gynhadledd, sy’n awgrymu bod rhai arweinwyr byd wedi cynllunio a gweithredu pandemig COVID-19 er mwyn cymryd rheolaeth o economi’r byd.

Llyfr

  • Schwab, Klaus; Malleret, Thierry (2020). COVID-19 : the great reset (arg. 1). Cologny/Geneva Schweiz: Forum Publishing. ISBN 9782940631124. OCLC 1193302829.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Ailosod Enfawr

Tags:

Great Reset Cydrannau allweddolGreat Reset BeirniadaethGreat Reset Uwchgynhadledd WEF 2021Great Reset Theori cynllwynGreat Reset LlyfrGreat Reset Gweler hefydGreat Reset CyfeiriadauGreat ResetFforwm Economaidd y BydLlywodraethPandemig COVID-19Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GoogleGwlad PwylCalsugnoBronThe SpectatorFfibrosis systigFfilm arswydHentai Kamen1902Pêl-côrffD. W. GriffithThe New SeekersRosetta1680Washington (talaith)The Private Life of Sherlock HolmesYishuvCamriTîm pêl-droed cenedlaethol merched AwstraliaOrganau rhywDrônTerfysgaethThe Disappointments RoomThe TinglerInvertigoY DiliauDydd LlunDaearyddiaethMy Pet DinosaurYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaLefetiracetamMathemategyddSteve PrefontaineReal Life CamEllingY Cenhedloedd UnedigNwyCemegAderyn ysglyfaethusDavid MillarEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016GolffLawrence of Arabia (ffilm)WiciDisturbiaPunch BrothersKal-onlinePorth Ychain800Sex and The Single GirlBody HeatRhestr dyddiau'r flwyddynMordiroHelmut LottiSigarét electronigY rhyngrwydRMS TitanicCyfarwyddwr ffilmIbn Sahl o SevillaFfilm gomediRwsegGronyn isatomigY gosb eithafFfotograffiaeth erotigElectrolytGallia Cisalpina2003Google ChromeH. G. WellsMathemateg🡆 More